Croeso i'r adolygiad o bolisi ynni a phenderfyniadau yng Nghymru
Bydd y fenter newydd hon yn archwilio sut y gall Cymru gyflymu’r newid i ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy’n darparu mwy o fuddion i gymunedau. Bydd y prosiect yn cael ei gynnal fel Adolygiad Adran 20, gan ddefnyddio fy mhwerau statudol cryfaf. Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gall Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer a chyflawni polisi a seilwaith ynni mewn ffordd sy’n cefnogi lles cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol yn well. Mae’r adolygiad yn cael ei arwain gan fy swyddfa, gyda’r rhan fwyaf o’r ymchwil a’r dadansoddiad yn cael ei wneud gan Joe Rossiter o Sefydliad Materion Cymreig.
Pam: Ers ymgymryd â rôl Comisiynydd, mae unigolion, cymunedau a chyrff cyhoeddus ledled Cymru wedi codi mater ynni yn gyson fel blaenoriaeth. Mae’r neges rydw i wedi’i chlywed yn glir: mae gormod o bobl yn teimlo nad yw’r newid i system ynni sero net eto’n darparu’r manteision hirdymor y dylai eu darparu i gymunedau, nac yn adlewyrchu’n llawn yr egwyddorion a’r pum ffordd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Mae llawer hefyd yn pryderu nad yw ein capasiti ynni adnewyddadwy yn cynyddu’n ddigon cyflym, ac yn nodi nad yw Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei tharged o 100% o drydan adnewyddadwy erbyn 2035.
Pryd: Bydd Prosiect Ynni yn digwydd mewn pedwar cam:
Mwy o wybodaeth