Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1332 [source_item_id] => 318 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 883 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 6b901e74-f0dc-47e2-89b6-f77b64c39a00 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Hinsawdd a Natur

Ein cenhadaeth ni yw cefnogi cyrff cyhoeddus i weithio tuag at eu targedau hinsawdd a natur erbyn 2030, a’u helpu i arwain newid mewn dulliau sy’n cryfhau cymunedau ac yn gwella llesiant.

Er bod cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, 
nid yw’r camau gweithredu yn gyson ar draws pob maes gwasanaeth. 
Byddwn yn hyrwyddo camau gweithredu sy’n edrych i’r dyfodolac sy’n darparu aml fanteision, fel datgarboneiddio sy’n lleihau biliau ynni, ac adferiad natur sy’n cefnogi iechyd da. 

Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025: Sut mae cyrff cyhoeddus yn ymateb i'r argymhellion a'r cynnydd sy'n cael ei wneud

Yr hyn y mae cyrff cyhoeddus wedi’i ddweud wrthym:

  1. Mae cyrff cyhoeddus yn adrodd eu bod yn cymryd camau i ddadgarboneiddio eu hasedau. Fodd bynnag, maent yn llai hyderus ynghylch sut i ymgorffori adferiad ac addasu natur fel blaenoriaethau craidd, yn enwedig o ran sgiliau ac adnoddau.
  2. Roedd cyrff cyhoeddus yn gefnogol iawn i’n hargymhelliad i gynyddu ynni cymunedol.
  3. Mae cyrff cyhoeddus yn cefnogi’r uchelgais gyffredinol ond mae angen mwy o arweiniad arnynt ar sut i ymgorffori risg hinsawdd a materion sy’n gysylltiedig â natur, fel datgoedwigo, mewn cynllunio a chadwyni cyflenwi.