Mae’r Nodau Datblygu Mewnol (IDGs) yn darparu fframwaith sy’n sail i’r newidiadau y mae angen i ni eu gwneud i sut rydym yn gwneud ein gwaith, er mwyn cymhwyso’r pum ffordd o weithio. Mae’r IDGs yn galluogi’r newid sylfaenol y mae angen i ni ei wneud i gynyddu ein galluoedd cyfunol ar gyfer cynaliadwyedd.
Mae’r IDGs yn darparu’r rôl hanfodol hon oherwydd eu bod nhw:
Gallwn ddefnyddio’r IDGs i ddadansoddi ein hymddygiadau ein hunain ac ymddygiadau eraill mewn ffyrdd a all ein galluogi i wella wrth weithredu’r pum ffordd o weithio.
Gall yr IDGs ein helpu i amlinellu problem rydym yn ei hwynebu nad ydym yn gwybod sut i’w datrys.
Mae’r IDGs yn ein cefnogi i symud o systemau llinol aneffeithlon i ffyrdd gweithio trawsddisgyblaethol a chylchol mwy effeithiol.
Ymarfer yw’r ffordd orau o symud eich datblygiad mewnol ymlaen. Efallai yr hoffech chi roi cynnig ar rai o’r newidiadau ymddygiad a argymhellir yn y Llawlyfr Ymddygiad Ffyrdd o Weithio , a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru yn ymarferol trwy eu rhaglen newid ymddygiad.
Gallwch hefyd gael mynediad at y Fframwaith Ymarfer Ymddygiadol hwn sy’n crynhoi rhai o’r technegau yn y llawlyfr.
Mae canllaw gweithdy bach hunanwasanaeth (15 munud) i’ch helpu i archwilio’r llawlyfr – gallech ddefnyddio hwn gyda’ch tîm neu’n unigol.
Rhowch gynnig ar y gerdd hon i ddechrau cyfarfod.
Cyrchwch ganllawiau ar gynnwys llais natur mewn pwyllgorau/byrddau/grwpiau a digwyddiadau.
Gallwch hefyd archebu lle ar gwrs rhyngweithiol awr am ddim sy’n cysylltu’r pum ffordd o weithio a’r Nodau Datblygu Mewnol.
Mae Cymru yn sefydlu Canolfan IDG genedlaethol, i gysylltu pobl sy’n ymarfer datblygiad mewnol, dan arweiniad ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a thîm Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r gwaith hwn wedi’i ategu gan rwydwaith o gefnogwyr, pobl a sefydliadau, sydd â diddordeb mewn, neu sydd eisoes yn ymwneud â, gwreiddio IDGs yng Nghymru.
Cynigir sesiynau Zoom ar-lein misol bob dydd Mercher rhwng 4-5pm gan ddarparu lle i bobl rannu profiad a chymharu arfer.
Rhowch wybod i ni os ydych chi eisiau ymuno â’r rhwydwaith neu’r sesiynau Zoom drwy gysylltu â Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru.