Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1563 [source_item_id] => 9087 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 63485 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => cc9e0204-f960-4b4f-9900-254326d1da7f [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

panel smiling towards school children in the audience

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn lansio ymchwiliad heddiw i sut y gall Cymru gyflymu’r newid i ynni adnewyddadwy, gan sicrhau bod cymunedau’n elwa mwy. 

Mae ynni’n hanfodol er mwyn tyfu economi Cymru, cryfhau diogelwch ynni ac ymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur, meddai’r Comisiynydd. 

Ond er gwaethaf targedau uchelgeisiol a photensial sylweddol Cymru i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, araf fu’r cynnydd, ac nid yw’r cymunedau lle mae’r seilwaith ynni wedi’i leoli bob amser yn cael cyfran deg o’r manteision. 

Wrth i COP31 barhau yn Nhwrci, gyda chynhadledd fyd-eang i drafod camau i fynd i’r afael â newid hinsawdd, mae Mr Walker yn defnyddio ei bwerau cryfaf o dan Adran 20 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i archwilio rôl hollbwysig cynghorau lleol wrth gyflymu’r newid i ynni adnewyddadwy. 

Bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gall sefydliadau ddefnyddio eu tir, eu hasedau, eu dyletswyddau cynllunio, eu penderfyniadau buddsoddi a’u grym prynu i gefnogi cynlluniau ynni adnewyddadwy sy’n sicrhau mwy o fanteision i bobl Cymru. 

Yn dilyn trafodaethau cychwynnol ag arweinwyr cynghorau, grwpiau cymunedol, arbenigwyr a datblygwyr ynni, mae’r Comisiynydd yn cyhoeddi heddiw y bydd yr adolygiad yn canolbwyntio ar 10 corff cyhoeddus, gan gynnwys chwe awdurdod lleol a’r pedair partneriaeth datblygu economaidd ranbarthol sy’n cwmpasu Cymru. 

Bydd y dystiolaeth a gesglir yn sail i argymhellion, nid yn unig i’r cyrff sy’n destun yr adolygiad, ond hefyd i weinidogion y Llywodraeth a sefydliadau eraill. 

Mae Mr Walker am i’r adolygiad arwain at newidiadau i’r system ynni, gan gynnwys: 

  • Biliau ynni is, gan ryddhau arian ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen
  • Mwy o swyddi lleol, prentisiaethau a chyfleoedd i feithrin sgiliau
  • Cadw mwy o gyfoeth ac incwm yng Nghymru drwy gynyddu perchnogaeth gymunedol a chyhoeddus ar brosiectau ynni
  • Gwell amddiffyniad i dirweddau sensitif, byd natur a thir ffermio cynhyrchiol
  • Sicrhau bod datblygiadau seilwaith yn y dyfodol, gan gynnwys canolfannau data deallusrwydd artiffisial, yn niwtral o ran ynni
  • Cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy yn gyflymach.

Yn y dyfodol, gallai’r newidiadau arwain at osod paneli solar ar doeau ysgolion; mwy o waith i fusnesau a chrefftwyr lleol; cyrff cyhoeddus yn cydweithio i sicrhau trydan glanach a mwy fforddiadwy; cyfran fwy o incwm prosiectau ynni yn ariannu prosiectau cymunedol; datblygu ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy’n gwarchod tirweddau sensitif, yn cefnogi adferiad natur ac yn diogelu’r tir ffermio sydd ei angen i sicrhau cyflenwad bwyd cadarn; a chynnydd cyflymach tuag at dargedau newid hinsawdd Cymru. 

Ymwelodd Mr Walker ag Ysgol Gyfun Caerllion heddiw a chyfarfu hefyd â disgyblion Ysgol Gwent Is Coed, sydd wedi bod yn helpu i wneud y ddwy ysgol yn fwy effeithlon o ran ynni. 

Mae’r ddwy ysgol wedi symud o bwmpiau gwres nwy ac mae eu disgyblion wedi cyflwyno ar eu llwyddiannau mewn digwyddiadau ynni ac yn eu cyngor lleol, gan eiriol dros newidiadau a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol. 

Mae Ysgol Gyfun Caerllion wedi cyflawni gostyngiadau blwyddyn ar ôl blwyddyn yn y defnydd o drydan ac mae wedi’i rhestru’n gyntaf yng Nghymru gan yr elusen Energy Sparks, sy’n defnyddio rhaglen rheoli ynni ar-lein i helpu ysgolion i leihau eu hallyriadau trydan, nwy a charbon.  

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: 

“Mae ynni wrth wraidd nifer o’r heriau sy’n wynebu Cymru heddiw, o gostau ynni cynyddol a’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ac ar ein cefn gwlad, i’r angen i ddatblygu’r diwydiannau, y sgiliau a’r swyddi a fydd yn cynnal cenedlaethau’r dyfodol. 

“Ar ôl haf o dywydd eithafol, a rhagolygon o ragor o lifogydd eleni, mae pobl Cymru, yn gwbl briodol, yn awyddus i weld system ynni sy’n gweithio er budd pobl a’r blaned. 

“Mae gennym gyfle enfawr i roi hwb i’r chwyldro ynni adnewyddadwy, ond rydym wedi mynd i stop. Rydym ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill, tra bo’r system yn parhau i dynnu adnoddau o Gymru yn hytrach na sicrhau bod ein cymunedau’n elwa ar ein gwynt, ein haul a’n dŵr. Bydd cael ynni’n iawn yn hollbwysig i ddyfodol Cymru.” 

Dywedodd Dimitri Batrouni, Arweinydd Cyngor Casnewydd:  

“Mae’r newid i ynni adnewyddadwy yn cynnig cyfle enfawr i Gasnewydd, ond rhaid i ni sicrhau bod ein trigolion a’n cymunedau’n elwa arno. Mae hynny’n golygu manteisio ar y newid i ynni glanach i helpu i leihau costau, creu swyddi lleol da a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau, a denu buddsoddiad i’n cymunedau. “Mae gan gynghorau ran bwysig i’w chwarae, ond allwn ni ddim cyflawni’r newid sydd ei angen ar y raddfa angenrheidiol ar ein pennau ein Hunain. “Rwy’n croesawu adolygiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a’r cyfle i Gasnewydd helpu i nodi’r hyn sydd angen ei newid yn lleol ac yn genedlaethol er mwyn cyflymu datblygiadau ynni adnewyddadwy a sicrhau bod y manteision yn cael eu rhannu’n deg.”