Safonau’r Gymraeg
Rydym yn falch o’r daith rydym wedi’i dilyn i greu gweithle sy’n hyderus o ran dwyieithrwydd, ac o’r rôl rydym yn ei chwarae wrth gefnogi ac annog defnydd y Gymraeg ar draws y sector cyhoeddus a thu hwnt.
01
O 19 Medi 2026, mae’n ofynnol i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg. Mae’r Safonau’n nodi’n glir ein rhwymedigaethau i ddarparu ein gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r dyletswyddau sy’n deillio o’r safonau yn golygu na ddylai sefydliadau drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac y dylent hefyd hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, gan ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio yn eu bywydau bob dydd. Ein nod yw galluogi pawb sy’n derbyn neu’n defnyddio ein gwasanaethau i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, ac annog eraill i ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sector cyhoeddus ehangach.
Pan fyddwch yn derbyn gwasanaeth gan sefydliad cyhoeddus yng Nghymru, dylech allu derbyn eich gohebiaeth yn Gymraeg. Wrth ffonio sefydliad, dylai’r sawl sy’n ateb eich galwad wneud hynny’n ddwyieithog. Os ydych wedi cyflwyno ymholiad neu gŵyn i sefydliad yn Gymraeg, ni ddylai eich dewis iaith arwain at unrhyw oedi. Dylai’r sefydliad hefyd weithredu polisïau a chadw cofnodion yn Gymraeg. I grynhoi, mae’r safonau’n:
02
Rydym am i’r Gymraeg fod yn rhan naturiol a hyderus o’n diwylliant gwaith bob dydd, lle mae staff ar bob lefel yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u hannog i ddefnyddio’r iaith mewn cyfarfodydd, cyfathrebiadau a rhyngweithio anffurfiol.
Byddwn yn parhau i normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg ar draws ein sefydliad, yn gwerthfawrogi pob lefel o ruglder, ac yn creu amgylchedd lle mae dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn cael ei ystyried yn rhan o bwy ydym ni a sut rydym yn gweithio. Drwy wneud hynny, rydym yn cryfhau ein cysylltiad â phobl Cymru ac yn cyfrannu at ddefnydd hirdymor o’r Gymraeg.
03
Rydym yn falch o allu darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog yn Gymraeg ac yn Saesneg. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall pethau fynd o chwith weithiau.
Os hoffech drafod y gwasanaeth rydych wedi’i dderbyn yn y naill iaith neu’r llall, anfonwch e-bost atom yn contactus@futuregenerations.wales
Os hoffech wneud cwyn, darllenwch ein canllawiau ar wneud cwyn am ein gwasanaethau Cymraeg.
Bydd cwynion neu bryderon yn ymwneud â’r Gymraeg yn dilyn yr amserlenni a’r camau a amlygwyd yn y Polisi Cwynion Safonau’r Gymraeg.
Caiff cwynion yn ymwneud â’r Gymraeg a diffyg cydymffurfiaeth posibl gyda Safonau’r Gymraeg eu harwain gan Ddirprwy Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a swyddogion o’r cyfarwyddiaethau neu feysydd gwasanaeth dan sylw. Bydd swyddogion yn dilyn y dull gweithredu hwn wrth ddelio gydag unrhyw gwynion yn ymwneud â’r Gymraeg.
Os teimlwch na chafodd y gŵyn ei datrys yn foddhaol neu fod rhywun yn ymyrryd gyda’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg, gallwch weithredu eich hawl i gwyno’n uniongyrchol i Gomisiynydd y Gymraeg.
Ffonio: 0845 6033221
E-bost: post@comisiynyddygymraeg.org
04
Ein Cyfarwyddwr Cysylltiadau Allanol a Diwylliant sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am y safonau.
Mae ein Gweithgor y Gymraeg (sy’n cynnwys aelodau o bob rhan o’r sefydliad) yn monitro ein gwaith i sicrhau ein bod yn cydymffurfio â Safonau’r Gymraeg a’n Polisi’r Gymraeg.
05
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag eraill i sicrhau ein bod yn bodloni’r safonau ac at fynd ati’n rhagweithiol i archwilio ffyrdd newydd o gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol ac ar draws Cymru. Gyda’n gilydd, gallwn gyfrannu at yr uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a chefnogi twf parhaus y Gymraeg a diwylliant Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae Diwylliant a’r Gymraeg yn genhadaeth benodol i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.
Dysgwch ragor am ein gwaith yma.
06
[Heb ei gyhoeddi eto]
Bob blwyddyn, caiff adroddiad blynyddol ei lunio ar sut rydym wedi gweithredu’r safonau. Caiff yr adroddiad ei gyflwyno i’n Uwch Dîm Arwain i’w gymeradwyo, ac fe’i cyhoeddir ar ein gwefan.