Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1236 [source_item_id] => 303 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 976 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => e3d08d5a-ce43-490c-bd93-2ea10c948c77 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Cyflwyniad

Rydym yn darparu cyngor, cymorth, cefnogaeth a chyfleoedd dysgu a datblygu i bobl ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Rydym yn cyhoeddi argymhellion ac adroddiadau; sylwadau ar bolisi a materion cyfoes; cynhyrchu pecynnau cymorth ac adnoddau; darparu cyngor yn uniongyrchol i sefydliadau; ac ymateb i aelodau o’r cyhoedd sy’n cysylltu â ni.

Lle y gallwn, byddwn yn cwrdd â chi i roi cyngor, darparu cyflwyniadau, hyfforddiant, cyfeirio, adnoddau, pecynnau cymorth, astudiaethau achos, canllawiau a chymorth cyffredinol.

Mae ein tîm yn cael llawer o geisiadau am gymorth ac mae angen inni flaenoriaethu’r sefydliadau hynny sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf; ond anfonwch e-bost at contactus@futuregenerations.wales gyda’ch ymholiad ac fe gawn ni weld sut gallwn ni helpu.

Cyfleoedd Dysgu a Datblygu

01

Cyd-greu'r Dyfodol: Hyfforddiant Dyfodol Cyfranogol

Ydych chi eisiau gwybod mwy am gynnwys pobl a chymunedau wrth greu gweledigaethau ar gyfer y dyfodol? Yna cofrestrwch ar gyfer un o’ein sesiwnau hyfforddi ar Dyfodol Cyfranogol – yn gyfuno y ffyrdd chyfranogiada meddwl hirdymor o weithio!

  • 4dd Mehefin 2026, Caerfyddin
  • 30fed Medi 2026, Gogledd Cymru
  • 8fed Rhagfyr 2026, Caerdydd
Cwblhewch y holiadur, os gwelwch yn dda, er mwyn cofrestru

02

Gweithredu heddiw er gwell yfory: Deall Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Dyddiadau sesiynau i ddod, ar-lein:  

  • 10 Mehefin 2026: 10yb – 12yp 
  • 10 Tachwedd 2026: 1.30yp – 4.00yp 

Nod y sesiwn hon fydd eich cyflwyno i’r Ddeddf neu roi adnewyddiad i chi. 

Trwy’r sesiwn hon byddwch yn:  

  • Cynyddu eich gwybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r hyn y mae’n ei olygu i gyrff cyhoeddus.  
  • Dyfnhau eich dealltwriaeth o sut mae egwyddor datblygu cynaliadwy yn siapio ac yn dylanwadu ar sut mae cyrff cyhoeddus yn gweithio.  
  • Datblygu sgiliau gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy (yn seiliedig ar y pum ffordd o weithio).  
  • Defnyddio’r adnoddau ac offer a fwriedir i’ch helpu i dynnu’r dysgu oddi arno a’i gymhwyso i’ch gwaith eich hun.  

Ar ddiwedd y sesiwn byddwch yn gallu:  

  • Siarad am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a pham ei bod yn ddarn mor bwysig o ddeddfwriaeth.  
  • Eglurwch rôl eich sefydliad o dan y ddeddfwriaeth.  
  • Rhoi enghraifft o pryd a sut i ddefnyddio’r ffyrdd o weithio.  

Gallai’r sesiwn hon fod o ddiddordeb arbennig i bobl a hoffai gael cyflwyniad neu adfywiad i’r Ddeddf – efallai aelodau newydd o staff, y rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith, y rhai sy’n gweithio mewn adrannau o gyrff cyhoeddus sy’n llai agored i hyfforddiant corfforaethol ar y Ddeddf, Swyddogion Etholedig newydd ac ati.   

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru, gan gyfeirio eich e-bost at Heledd Morgan. 

Cofrestrwch yma

03

Hwb Dyfodol - Sut i feddwyl yn y tymor hir

Ydych chi eisiau gwybod mwy am feddwl hirdymor, rhoi cynnig ar wahanol dechnegau rhagweld a’u cymhwyso yn eich gwaith? Yna cofrestrwch ar gyfer un o’n digwyddiadau hyfforddi ar feddwl hirdymor nawr! 

Cofrestrwch yma

05

Dysgu ar-lein: Ti, fi a dyfodol Cymru

Dysgwch sut y gallwch chi chwarae rhan weithredol yn y broses o greu ein Cymru ddelfrydolYn y canllaw hwn byddwch yn dod o hyd i gamau ymarferol i’ch helpu i ddechrau arni, a bydd yn dangos sut mae’r Ddeddf eisoes yn cael ei defnyddio i wella ardaloedd lleol yng NghymruHefyd ar gael mewn BSL.

Dysgwch fwy

06

Dysgu ar-lein: Cwrs byr

E-fodiwl a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pawb sy’n dod o dan ymbarél y Ddeddf – staff, contractwyrderbynwyr grantiau ac eraill sy’n gweithio gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus.

 

Dysgu mwy

Darllenwch fwy

Dysgwch am Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol 2015

Mae symud i genedlaethau’r dyfodol yn gofyn am newid diwylliant. I wneud hynny, mae yna 7 nod i weithredu fel canllaw, pum dull i helpu pobl i gyrraedd yno, 50 ffordd o wirio ein bod ar y trywydd iawn.

Dysgwch Mwy