Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1517 [source_item_id] => 63301 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 9005 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => ad154703-7fb0-4485-bc56-48163a9fe52a [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Atal

Beth yw atal? 

Rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod yn well atal na gwella. Mae atal wrth wraidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, gan ei fod yn un o’r ffyrdd statudol o weithio y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru eu defnyddio.

Mae’n golygu gweithredu’n gynnar i atal problemau rhag codi neu waethygu, yn hytrach nag aros nes bod pobol, cymunedau, gwasanaethau cyhoeddus neu’r amgylchedd eisoes mewn argyfwng neu fod angen diwallu angen dybryd. Mae’n ymwneud ag ystyried sut y gall atal helpu cyrff cyhoeddus i gyflawni eu hamcanion llesiant o dan y Ddeddf ac i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae atal yn mynd y tu hwnt i ofal iechyd. Gall olygu atal yr heriau a’r problemau niferus sy’n effeithio ar lesiant pobol a lleoedd fel ei gilydd. Gall gynnwys, er enghraifft, atal tlodi, afiechyd, digartrefedd, colli bioamrywiaeth, newid hinsawdd, diweithdra ac ynysigrwydd cymdeithasol.

Mae hefyd yn ymwneud ag atal problemau i genedlaethau’r dyfodol.

Diffiniad cytûn o atal

Yn fuan ar ôl sefydlu’r swyddfa, cytunodd y Comisiynydd a Llywodraeth Cymru yn 2017 ar ddiffiniad o atal a luniwyd i’w ddefnyddio ar draws y sector cyhoeddus cyfan.

Roedd hyn yn flaenoriaeth i Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru am fod cymaint o ddiffiniadau gwahanol o atal, sy’n arwain at ddryswch a diffyg gweithredu. Mae rhai hefyd yn benodol i sectorau unigol, ac roedden ni am gael diffiniad cyffredinol.

 

Defnyddio’r diffiniad

Mae cael un diffiniad cyffredin ledled Cymru yn ein helpu i:

  • Ddefnyddio’r un iaith wrth drafod beth rydyn ni’n ei olygu wrth atal, ar draws sectorau a phroffesiynau.
  • Ei gymhwyso wrth ddeall gweithgareddau, bwriadau polisi a thargedau, yn ogystal ag wrth fapio cyllidebau.
  • Weld i ble mae arian cyhoeddus yn mynd, o atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf i ymateb pan fyddan nhw’n mynd yn ddifrifol.
  • Ddeall y math o gamau rydyn ni’n eu cymryd i atal heriau ac asesu pa mor effeithiol ydyn nhw.
  • Nodi cyfleoedd i weithredu’n gynharach, cyn i broblemau fynd yn fwy difrifol ac yn fwy costus.
  • Cymharu a dysgu rhwng gwahanol sefydliadau, sectorau a gwasanaethau cyhoeddus.
  • Gwneud penderfyniadau hirdymor gwell ynghylch ble i weithredu neu fuddsoddi adnoddau.
  • Olrhain cynnydd dros amser a deall a ydyn ni wir yn symud tuag at atal problemau.

Y syniad allweddol: po gynharaf y gallwn ni weithredu i fynd i’r afael ag achosion problemau, y mwyaf yw’r cyfle i atal niwed, lleihau costau a lleihau’r galw yn y dyfodol, yn hytrach nag ymateb dro ar ôl tro pan fydd problemau wedi mynd yn ddifrifol.

Dyna pam mae ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 yn argymell bod cyrff cyhoeddus yn mapio eu gwariant ataliol ac yn buddsoddi mwy yn raddol mewn camau atal cynradd sy’n mynd i’r afael ag achosion problemau, ac yn defnyddio dulliau atal sy’n seiliedig ar leoedd ac yn ystyried penderfynyddion ehangach iechyd (yr amodau sy’n ein cadw’n iach).

Pam mae atal yn bwysig?

Mae atal yn ymwneud â’r Gymru rydyn ni am ei chreu.

Nid yw atal yn ddewis yng Nghymru. Mae’n rhan greiddiol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mae atal yn arbennig o bwysig yn yr hinsawdd bresennol wrth i wasanaethau cyhoeddus wynebu pwysau cynyddol. Bydd ymateb i anghenion uniongyrchol bob amser yn bwysig, ond nid yw delio ag argyfyngau dro ar ôl tro heb fynd i’r afael â’u hachosion yn gynaliadwy. Mae adroddiad Llesiant Cymru yn dangos, flwyddyn ar ôl blwyddyn, bod angen inni weithredu’n well ac yn gyflymach.

“Pam trin pobol ac yna eu hanfon yn ôl i’r amodau a’u gwnaeth yn sâl?” – Syr Michael Marmot

Nod y ffordd o weithio sy’n canolbwyntio ar atal yw mynd i’r afael â rhai heriau cyffredin yn y sector cyhoeddus, fel gwneud penderfyniadau adweithiol heb ystyried achosion yr heriau, a gwneud penderfyniadau ar wahân heb edrych ar y system gyfan o’u cwmpas.

Yn hytrach, ei nod yw symud tuag at system lle mae gwasanaethau cyhoeddus yn deall achosion sylfaenol problemau’n well ac yn gweithredu’n gynnar i fynd i’r afael â nhw, heb aros i argyfwng godi.

Yn gadarnhaol, mae’r drafodaeth yng Nghymru wedi symud o ‘a oes angen inni fuddsoddi mewn atal?’ i ‘sut gallwn ni fuddsoddi orau mewn atal, a ble gallwn ni ddod o hyd i’r cyllid?’

Fel y mae ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 wedi dangos, mae consensws eang yng Nghymru ynghylch pwysigrwydd a gwerth atal, ond mae gweithgarwch o ddydd i ddydd yn parhau i ganolbwyntio ar broblemau difrifol ym mhob sector.

Mae atal yn gwneud synnwyr ar bob lefel. Dyma’r peth moesol gywir i’w wneud am ei fod yn osgoi dioddefaint diangen. Mae hefyd yn gwneud synnwyr ariannol am ei bod yn well ac yn rhatach atal problemau na thalu am eu canlyniadau dro ar ôl tro. Ac mae’n decach am ei fod yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau’n gynharach. Yn y pen draw, mae atal yn fuddsoddiad ym mhoblogaeth heddiw ac yng nghenedlaethau’r dyfodol.

Cwestiynau i’w gofyn am atal

Wrth ystyried eich gwaith eich hun, gofynnwch:

  1. Pa broblem neu her y mae eich gwaith yn ceisio ei hatal yn y dyfodol?
  2. Beth yw’r achosion sylfaenol y gallai eich gwaith helpu i fynd i’r afael â nhw?
  3. Sut gall eich gwaith helpu i dorri cylchoedd negyddol a/neu fynd i’r afael â heriau sy’n pontio’r cenedlaethau a thueddiadau’r dyfodol, fel tlodi, iechyd gwael, niwed amgylcheddol a cholli bioamrywiaeth?
  4. A yw eich gwaith yn ymwneud ag atal cynradd, eilaidd neu drydyddol? A allech chi weithredu’n gynharach neu fynd ymhellach i’r afael ag achosion problemau?
  5. Beth yw’r risgiau o beidio â gwneud y gwaith, o ran creu problemau newydd neu adael i broblemau presennol waethygu?
  6. Pwy sydd angen cymryd rhan i’ch helpu i gynllunio’r ateb?
  7. A yw ein buddsoddiad yn adlewyrchu ein huchelgais i atal y broblem?

Atal

Ein Gwaith ar Atal

Archwiliwch ddolenni i'n gwaith diweddaraf ar atal i hyrwyddo Cymru Can.

Darllen Mwy
Atal

Atal

Offeryn Mapio Cyllidebau Ataliol Cenedlaethau’r Dyfodol

Darllen Mwy
Atal