Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1251 [source_item_id] => 287 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 917 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => abc2767a-2e9f-433a-9e0f-a2e972f74dbd [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Cyflwyniad i AACD

Mae Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol yn grŵp o bobl ifanc 18-30 oed sy’n gweithredu dros genedlaethau’r dyfodol ar draws cymdeithas Cymru.

Mae’r rhaglen uchelgeisiol ac arloesol hon yn dod â phartneriaid o’r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru ynghyd, gan gydweithio i hyfforddi unigolion ifanc o bob cwr o Gymrui ddatblygu arweinyddiaeth a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

AACD 6.0

Gwneud cais i ymuno ag Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol 6.0!

Dyddiad cau: 5ed Mehefin 2026, 12:00am

Dolen i'r ffurflen gais

Wedi’u dewis trwy recriwtio agored a nawdd cyflogaeth, mae arweinwyr y dyfodol yn cychwyn ar raglen 8 mis trwy ddysgu ar-lein a digwyddiadau preswyl personol.

Mae’r Academi wedi ymrwymo i gefnogi ystod amrywiol o arweinwyr y dyfodol i:

  • Ddatgloi a chryfhau sgiliau arwain.
  • Cyflawni nodau personol a phroffesiynol.
  • Dysgu popeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi dod yn gonglfaen llunio polisi yng Nghymru.
  • Rhwydweithio a gwneud cysylltiadau â phobl ledled Cymru.
  • Bod yn rhan o rwydwaith Alumni ymgysylltiedig, sy’n darparu cyfleoedd parhaus i raddedigion yr Academi.
  • Adeiladu mudiad dros newid ar gyfer y Ddeddf mewn cymunedau a sefydliadau ledled Cymru.
Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

Y Rhaglen

Manylion Cwrs AACD

Edrychwch yn fanylach ar yr hyn a gyflwynir ar y rhaglen 7-mis ar gyfer pobl ifanc 18-30 oed yn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.

Dysgwch Mwy

"Rwy’n mwynhau’r rhaglen yn fawr ac yn dysgu am Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol, yn bendant dyma’r cwrs arweinyddiaeth gorau i mi fod arno erioed!"

Caitlin Rodrigues | Tîm Profiad Cwsmer, Cymdeithas Adeiladu PrincipalityTîm Profiad Cwsmer, Cymdeithas Adeiladu Principality

Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol 4.0 ym Mhrifysgol Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (Llun: Huw John)

Ein Tîm

Cwrdd â Thîm yr Academi

Korina Tsioni

Arweinydd Rhaglen: Academi Arweinwyr y Dyfodol

Mae Korina yn canolbwyntio ar waith Academi Arweinwyr y Dyfodol, ac mae’n angerddol am gyfiawnder cymdeithasol ac arloesi dysgu. Trwy’r rhaglen, mae arweinwyr ifanc o bob cefndir yn deall pensaernïaeth a gweithrediad da’r Ddeddf yn llawn. Maent yn graddio gyda’r wybodaeth, y sgiliau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i gymhwyso’r Ddeddf ym mhopeth a wnânt, ac i wynebu’r heriau ar hyd y ffordd. Mae Korina yn gwirfoddoli fel Ymddiriedolwr. Mae hi hefyd yn caru natur a diwylliant. Mae hi'n cynnal digwyddiadau amlddiwylliannol sy'n cyfuno pob math o gelfyddyd -ac yn gweithio fel cerddor a dawnsiwr.

Emma Evans

Arweinydd Rhaglen: Academi Arweinwyr y Dyfodol

Heledd Morgan

Cyfarwyddwr: Gweithredu ac Effaith

Heledd yw’r cyfarwyddwr sy’n gyfrifol am ein cenhadaeth graidd, sicrhau bod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu’n effeithiol a chydag uchelgais gan gyrff cyhoeddus ledled Cymru. Mae Heledd yn gweithio gyda sefydliadau i'w helpu i newid arferion a diwylliant, cyflawni dyletswyddau'r Ddeddf a rhannu eu heffaith. Mae Heledd hefyd yn cefnogi cyflwyno ein Hacademi Arwain, gan gefnogi pobl ifanc yng Nghymru i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth am ddatblygu cynaliadwy. Mae Heledd yn hanu o Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol ac yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd, lle mae’n mwynhau cerdded ym myd natur a threulio amser yn y gymuned leol.
Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

cyn-fyfyrwyr AACD

Cyn-fyfyrwyr

Mae mwy na 100 o arweinwyr ifanc wedi graddio o Academi Arwain Cenedlaethau’r Dyfodol ers 2019.

Cwrdd â'r cyn-fyfyrwyr

Cysylltwch

Cysylltwch â ni am yr academi

Am ymholiadau cyffredinol, e-bostiwch: cysylltwchâni@cenedlaethaurdyfodol.cymru

E-bost