Cymru Can
Economi Llesiant
Ein cenhadaeth economi llesiant yw helpu i drawsnewid Cymru i economi sy’n rhoi pobl a’r blaned yn gyntaf.
Mae caffael cyhoeddus yn cael ei nodi fel un o’r meysydd lle gall cymhwyso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arwain at y newid mwyaf effeithiol. Bob blwyddyn, mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn gwario dros £10 biliwn ar nwyddau a gwasanaethau – gall y gwariant hwn lunio Cymru sy’n fwy cyfartal, yn fwy llewyrchus ac yn fwy cyfrifol yn fyd-eang.
Mae ein gwaith wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at y ffaith bod yn rhaid i gaffael symud y tu hwnt i feddylfryd tymor byr, gan sicrhau yn hytrach lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol hirdymor.
Yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020, nodwyd caffael fel dull i annog newid nad oedd yn cael ei ddefnyddio’n ddigonol. Nodwyd bod ymgyfraniad arweinwyr, adnoddau a chapasiti, ynghyd â thirwedd gymhleth, yn heriau allweddol o ran caffael cyfrifol.
Darparodd yr Adolygiad Adran 20 – “Caffael llesiant yng Nghymru” (2021) – asesiad dyfnach. Canfuwyd:
Amlinellodd yr adolygiad argymhellion clir i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus er mwyn gwneud caffael yn fwy strategol, yn fwy cydweithredol ac yn fodd o roi mwy o ffocws ar ganlyniadau.
Yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025, pwysleisiasom unwaith eto bod angen defnyddio caffael ar fyrder, i fynd i’r afael â heriau mawr, gan gynnwys yr argyfyngau hinsawdd a natur ac anghydraddoldeb economaidd. Er bod cynnydd clir wedi’i wneud, mae’r angen i weithredu’n gadarnach ac yn fwy cyson yn awr yn hanfodol bwysig.
Mae cynnydd pwysig wedi’i wneud ledled Cymru:
Arloesedd yn y sector cyhoeddus: Mae llawer o sefydliadau yn defnyddio caffael yn amlach ac amlach:
Mae’r datblygiadau hyn yn dangos newid clir tuag at ddefnyddio caffael mewn ffordd fwy strategol i gyflawni canlyniadau llesiant. Rhaid trin caffael fel offeryn strategol ar gyfer cyflawni newid yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, er mwyn cyfrannu at ein gweledigaeth o economi llesiant sy’n cefnogi pobl a’r blaned.
Sicrhau llesiant cenedlaethau’r dyfodol yw ein cenhadaeth flaenoriaethol, Cymru Can, ac mae hynny’n hollbwysig.