Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025
Wedi'i gynllunio i gefnogi gwleidyddion ac arweinwyr cyrff cyhoeddus i wneud bywyd yn well i bobl a'r blaned nawr ac yn y dyfodol.
Wedi’i seilio ar dystiolaeth gadarn, ymchwil, ac ymgysylltu â channoedd o sefydliadau a chymunedau ledled Cymru, mae’r adroddiad yn rhannu canfyddiadau allweddol ac yn darparu cyngor statudol i Gyrff Cyhoeddus. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn gweithio ochr yn ochr â Chyrff Cyhoeddus i helpu i droi’r argymhellion hyn yn gamau gweithredu go iawn.
Heb gamau brys i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur, anghydraddoldeb cynyddol, a heriau hirdymor eraill, rydym mewn perygl o wynebu dyfodol sy’n teimlo y tu hwnt i’n rheolaeth.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi map ffordd inni i wella bywydau nawr ac ar gyfer y dyfodol – fel pan ofynnir inni beth wnaethom i adeiladu Cymru well a byd gwell, gallwn ddweud ein bod wedi gwneud popeth o fewn ein gallu.
Darllenwch sut mae cyrff cyhoeddus yn ymateb i’r argymhellion yr adroddiad,
unrhyw rwystrau i‘w gweithredu a sut y gall ein tîm eu cefnogi i fabwysiadu mwy o argymhellion.
Y tu mewn i'r adroddiad, fe welwch asesiad o gynnydd, cyngor wedi'i dargedu ac enghreifftiau o newid sydd eisoes yn digwydd trwy wasanaethau cyhoeddus.
Rhai o'r camau gweithredu brys o Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025 y mae'r Comisiynydd yn galw ar wleidyddion a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i'w cyflawni.
Gwneud
Archwiliwch y mudiad dros newid ledled Cymru lle mae pobl yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wella bywydau nawr a'r dyfodol.
Darllen Mwy
Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025
Gwelwch gomisiynau’r artistiaid sydd wedi’u cynnwys yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025.
Darllen Mwy