Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1305 [source_item_id] => 317 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 886 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => de64bdf2-7c69-4e82-a221-521907e792bf [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Ein cenhadaeth iechyd a llesiant yw cadw ein pobl yn iach cyhyd â phosibl.

Rydym yn helpu cyrff cyhoeddus i gynyddu eu gweithgaredd a’u buddsoddiad ataliol, cydweithio ar achosion sylfaenol afiechyd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Rydym yn helpu i ddod o hyd i ddatrysiadau i ddiogelu ein gofal iechyd ar gyfer y dyfodol wrth iddo wynebu llawer o heriau (er enghraifft – cynnydd mewn salwch, gostyngiad mewn adnoddau, gostyngiad yn nifer y staff).

Iechyd A Llesiant

Adroddiad Cenedlaethaur Dyfodol 2025: Argymhellion

  1. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno prif darged statudol ar gyfer adferiad byd natur erbyn 2050 mewn deddfwriaeth sylfaenol erbyn 2026, gyda thargedau pellach yn adlewyrchu’r Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang mewn is-ddeddfwriaeth, cynllun gweithredu clir a threfniadau ariannu hirdymor.
  2. Mae defnyddio ein tir yn ddoeth yn bwysicach nag erioed. Yn dilyn ei hadolygiad 5 mlynedd nesaf o Cymru’r Dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu fframwaith defnydd tir a morol integredig sy’n cydbwyso ymrwymiadau i adfer natur, cefnogi cynhyrchu bwyd, gwella gwytnwch hinsawdd a darparu tai a seilwaith newydd. Dylid cyflwyno canllawiau a phecynnau cymorth i gefnogi penderfyniadau lleol i gyd-fynd â’r fframwaith.
  3. Gan adeiladu ar y buddsoddiad mewn byrddau rheoli maetholion a fforymau arfordirol ac afonydd presennol, dylai Llywodraeth Cymru ehangu’r dalgylch fel penderfynwyr y gellir ymddiried ynddynt wrth adfer afonydd. Dylai’r partneriaethau hyn ddod ag ystod amrywiol o randdeiliaid ynghyd i gyd-greu cynlluniau gweithredu ar y cyd, tra’n galluogi rheoleiddwyr fel Cyfoeth Naturiol Cymru i weithio’n fwy cydweithredol a sbarduno newid cadarnhaol, hirdymor.
  4. O fewn tymor nesaf y Llywodraeth, mae angen deddfwriaeth i roi’r un pwerau rheoleiddio i Cyfoeth Naturiol Cymru â’i gymar yn Lloegr, gan gynnwys yr awdurdod i roi sancsiynau sifil, megis gorchmynion atal a dirwyon am weithgareddau llygru.
  5. Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu tîm arbenigol a thraws-sector, i gefnogi cyrff cyhoeddus i baratoi cynigion sy’n barod ar gyfer buddsoddi a all ddenu cyllid o’r sector preifat ar gyfer adfer byd natur a sero net, gan sicrhau aliniad ag egwyddorion buddsoddi cynaliadwy.
  6. Dylai Awdurdod Cyllid Cymru gael y dasg o glustnodi dirwyon a thaliadau amgylcheddol i ariannu gweithredu hinsawdd a natur yn uniongyrchol.
  7. O 2025 ymlaen, rhaid i gyrff cyhoeddus roi blaenoriaeth i wydnwch yn yr hinsawdd, budd net i fioamrywiaeth, a lleihau plaladdwyr yn y modd y maent yn rheoli eu hystadau, gan gynnwys eu hadeiladau, ffermydd tenantiaid, parciau, ymylon ffyrdd ac asedau tir eraill.
  8. Mae gan ynni adnewyddadwy lleol, gan gynnwys ynni cymunedol ac ynni cyhoeddus, ran ganolog i’w chwarae wrth gyflawni sero net. Mae angen mwy o adnoddau a chymorth yn genedlaethol. Dylai sefydliadau’r sector cyhoeddus gynyddu eu cydweithrediad â phrosiectau ynni lleol drwy ryddhau tir ar gyfer mentrau ar y cyd ac ymrwymo i brynu’r trydan.
  9. Rhaid i wydnwch ac ymaddasu yn yr hinsawdd ddod yn flaenoriaeth graidd i wasanaethau cyhoeddus. Erbyn diwedd 2027, dylai Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus asesu risgiau hinsawdd ar gyfer eu cymunedau, gan ddiweddaru eu canfyddiadau bob pum mlynedd fel rhan o’u hasesiadau llesiant. Rhaid i gyrff cyhoeddus integreiddio’r canfyddiadau hyn i’w cynllunio corfforaethol a strategol.
  10. Rhaid i’r sector cyhoeddus ddod yn rhydd o ddatgoedwigo erbyn 2028, gan sicrhau nad yw cadwyni cyflenwi yn cyfrannu at ddatgoedwigo byd-eang, colli cynefinoedd neu dorri hawliau dynol, gan gynnwys llafur plant a cham-drin hawliau Pobl Gynhenid.

Yr hyn y mae cyrff cyhoeddus wedi’i ddweud wrthym:

  • Mae’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn cydnabod pwysigrwydd atal. Maent yn deall bod gweithredu cynnar yn gwella llesiant ac yn lleihau costau hirdymor, ac mae llawer wedi dechrau ymgorffori atal yn eu strategaethau
  • Fodd bynnag, mae cyrff cyhoeddus mewn gwahanol gamau. Mae gan rai fframweithiau atal datblygedig, tra bod eraill yn dal i ddatblygu diffiniadau ac yn alinio eu dull.
  • Tynnodd sawl un sylw at rwystrau ymarferol, gan gynnwys pwysau cyllidebol, gofynion rheoleiddio, cylchoedd ariannu blynyddol a galw cynyddol am wasanaethau.
  • Mae’r rhan fwyaf o gyrff cyhoeddus yn cefnogi gweithredu cryfach ar anghydraddoldebau iechyd. Mae llawer yn defnyddio dulliau fel Egwyddorion Marmot, creu lleoedd, a’r model cymdeithasol o iechyd. Fodd bynnag, mae rhai yn ansicr sut i gymhwyso’r dulliau hyn yn ymarferol neu sut maen nhw’n berthnasol i’w gwaith
  • Dywedodd cyrff cyhoeddus wrthym hefyd eu bod am wneud gwell defnydd o dystiolaeth i atal anghydraddoldebau iechyd, ond mae mynediad at ymchwil yn dameidiog. Er enghraifft, gall asesiadau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) a’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPR) ddyblygu dadansoddiad, ac nid ydynt bob amser yn cael eu defnyddio’n gyson i lywio gwneud penderfyniadau.

Er mwyn cryfhau dealltwriaeth, bydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn:

  • Gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliad Iechyd y Byd, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau bod atal yn cael blaenoriaeth ar draws gweithgaredd ac o fewn cyllidebau (gweler hefyd gamau gweithredu o dan yr adran gyllidebu).
  • Gweithio gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru ac eraill i egluro’r dulliau sydd ar gael i wella iechyd y boblogaeth.
  • Cefnogi datblygiad dull Marmot Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad dros Ecwiti Iechyd. Parhau i adeiladu’r sylfaen dystiolaeth i ddangos sut y gall cyrff cyhoeddus symud cyllid tuag at atal sylfaenol.
  • Parhau i weithio gyda chyrff cyhoeddus ledled Cymru i rannu arfer da wrth ddefnyddio tystiolaeth a thueddiadau’r dyfodol. Gweithio gyda BGCau, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a BPRau i leihau dyblygu a gwella sut mae tystiolaeth yn cael ei rhannu a’i defnyddio mewn cynllunio ac asesiadau llesiant.