Cipolwg a Newyddion
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn galw am atal pob datblygiad canolfan ddata deallusrwydd artiffisial newydd yng Nghymru dros dro
Tachwedd 20, 2026
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn galw am atal cymeradwyo datblygiadau canolfannau data deallusrwydd artiffisial newydd yng Nghymru dros dro nes bod canllawiau a mesurau diogelu cenedlaethol ar waith i sicrhau bod penderfyniadau’n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Daw’r alwad yng nghanol pryder cynyddol ymhlith y cyhoedd am effaith datblygiadau seilwaith deallusrwydd artiffisial ar adnoddau naturiol Cymru, ei hymrwymiadau hinsawdd a chymunedau lleol, yn ogystal â chanlyniadau arolwg barn newydd a gomisiynwyd gan y Comisiynydd.
Disgwylir i ddeallusrwydd artiffisial chwarae rhan gynyddol bwysig yn nyfodol Cymru. Fodd bynnag, mae Derek Walker yn rhybuddio na ddylid gwneud penderfyniadau am y seilwaith ar raddfa fawr sydd ei angen i gefnogi deallusrwydd artiffisial heb ystyried yn llawn yr effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd hirdymor.
Mae’r Comisiynydd wedi codi’r pryderon hyn yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru, gan alw am fwy o eglurder a sicrwydd ynghylch sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei chymhwyso wrth wneud penderfyniadau am seilwaith deallusrwydd artiffisial, a sut mae cymunedau’n cael cyfle ystyrlon i gymryd rhan yn y prosesau penderfynu.
Rôl y Comisiynydd yw gweithredu fel gwarcheidwad cenedlaethau’r dyfodol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau sy’n diogelu anghenion hirdymor Cymru yn ogystal ag anghenion heddiw.
Canfu arolwg barn newydd, a gomisiynwyd gan y Comisiynydd ac a gynhaliwyd gan Beaufort Research, fod dwy ran o dair (66%) o bobol Cymru yn poeni am effaith canolfannau data deallusrwydd artiffisial ar adnoddau naturiol fel dŵr ac ynni. Dywedodd bron i dri o bob deg (29%) eu bod yn poeni’n fawr, tra dywedodd 37% eu bod yn poeni i ryw raddau.
Yr wythnos hon, ymwelodd Derek Walker ag Ysgol Gyfun Caerllion yn Ne Cymru, lle cyfarfu â disgyblion yr ysgol ac Ysgol Gwent Is Coed gerllaw, a lansio adolygiad o’r newid i ynni adnewyddadwy yng Nghymru.
Dywedodd Elin, 14 oed, o Ysgol Gyfun Caerllion:
“Gofynnais i’r Comisiynydd sut y bydd y nifer cynyddol o ganolfannau data yng Nghymru yn effeithio ar faint o drydan a dŵr rydyn ni’n eu defnyddio yng Nghasnewydd, ac a fydd modd inni ddiogelu ein dŵr glân a pharhau i gynhyrchu digon o ynni ar gyfer ein holl gartrefi, gan wella a chynnal ecosystemau iach yn y dyfodol, a beth fydd y gost.
“Mae gen i deimladau cryf am ganolfannau data deallusrwydd artiffisial, ac mae llawer o’m ffrindiau’n teimlo’r un fath. Rwy’n poeni am eu heffaith ar ein hamgylchedd. A fyddan nhw’n llygru ein dŵr? Faint o wres fyddan nhw’n ei gynhyrchu? A pha effaith fyddan nhw’n ei chael ar yr ecosystemau lle cânt eu hadeiladu?
“Yn bersonol, rwy’n credu ei bod yn beth da gofyn i Lywodraeth Cymru atal cynlluniau canolfannau data deallusrwydd artiffisial dros dro. Ond yn y tymor hir, mae angen inni ddod o hyd i ateb sy’n cynnal ecosystemau iach heb ddefnyddio gormod o ddŵr a thrydan. Rwy hefyd yn credu nad oes angen adeiladu cymaint o ganolfannau data.”
Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
“Bydd deallusrwydd artiffisial yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol Cymru, a dylem groesawu cyfleoedd ar gyfer arloesi a buddsoddi cyfrifol. Ond allwn ni ddim fforddio gwneud penderfyniadau am ganolfannau data mawr newydd heb ddeall y canlyniadau hirdymor yn llawn a chynnwys cymunedau’n uniongyrchol.
“Dyna pam rwy’n galw am atal cymeradwyo canolfannau data newydd sy’n gysylltiedig â deallusrwydd artiffisial yng Nghymru dros dro, nes bod canllawiau cenedlaethol clir ar waith.
“Bydd y datblygiadau hyn yn rhoi pwysau sylweddol ar ein hadnoddau ynni a dŵr, gyda goblygiadau i’n hamgylchedd, i’r cymunedau sy’n byw gerllaw ac i’n hymrwymiadau hinsawdd.
“Mae’r drafodaeth wleidyddol am ganolfannau data wedi canolbwyntio ar y manteision economaidd posibl, ond llawer llai o drafod sydd wedi bod am effeithiau hirdymor eraill, er gwaethaf cryfder amlwg teimladau’r cyhoedd.
“Wrth i’r trafodaethau terfynol gael eu cynnal yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd COP31 yn Antalya, Twrci, heddiw, ni all Cymru bennu cyfeiriad byd-eang deallusrwydd artiffisial, ond rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau ei bod yn gwrando ar bobol a bod y penderfyniadau a wneir yma yn gyfrifol, yn dryloyw ac yn cyd-fynd â’n nodau llesiant.”
Mae’r Comisiynydd yn credu bod cyfle i Gymru ddefnyddio ei deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol i gynllunio seilwaith deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol, drwy gymhwyso meddylfryd hirdymor ac egwyddorion datblygu cynaliadwy cyn gwneud penderfyniadau pwysig.
Ym mis Medi 2026, pleidleisiodd Senedd yr Alban o blaid pennu canllawiau cynllunio cenedlaethol ar gyfer canolfannau data.
Ychwanegodd Hannah, 15 oed, disgybl yn Ysgol Gwent Is Coed:
“Er y gall deallusrwydd artiffisial fod yn ddefnyddiol i’n helpu i weithredu ar newid hinsawdd, fel rhagweld tanau gwyllt a’n helpu i baratoi ar gyfer tywydd peryglus, nid yw llawer o bobol yn sylweddoli faint o effaith sydd ganddo ar ein hamgylchedd.
“Rwy’n poeni faint o ddŵr a thir y bydd canolfannau data deallusrwydd artiffisial yn eu defnyddio a sut y bydd hyn yn effeithio ar ansawdd bywyd pobol yn y dyfodol. Sut y bydd hyn yn effeithio ar ansawdd ein haer a’n hiechyd?
“Rwy’n credu y dylai Cymru roi’r gorau i adeiladu canolfannau data deallusrwydd artiffisial nes bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud mwy o ymchwil i sut y byddant yn effeithio ar genedlaethau’r dyfodol.”