Cipolwg a Newyddion
Pedair Blynedd yn Ddiweddarach: Rhaid i Gymru Droi Cynnydd yn Adferiad Afonydd, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Gorffennaf 22, 2026
Mae Gorffennaf 2026 yn nodi pedair blynedd ers i Lywodraeth Cymru gynnull yr Uwchgynhadledd gyntaf ar Lygredd Afonydd yn Sioe Frenhinol Cymru i fynd i’r afael ag effaith llygredd ar rai o afonydd mwyaf gwerthfawr Cymru.
Yn y blynyddoedd ers hynny, bu cynnydd gwirioneddol, ond cymedrol. Mae rhagor o gyrff dŵr afon bellach yn cyrraedd targedau ffosfforws; mae Byrddau Rheoli Maethynnau a chynlluniau gweithredu dalgylchoedd wedi’u sefydlu ar draws y dalgylchoedd yr effeithir arnynt; mae buddsoddiad cyhoeddus sylweddol wedi’i gyfeirio at seilwaith ffermydd a gwelliannau i reoli maethynnau; ac mae’r Papur Gwyrdd Diwygio Dŵr wedi cyflwyno gweledigaeth hirdymor uchelgeisiol ar gyfer dull mwy integredig o reoli dŵr.
Er gwaethaf y datblygiadau cadarnhaol hyn, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn rhybuddio bod graddfa a chyflymder y newid yn dal i fod yn brin o’r hyn sydd ei angen:
“Bedair blynedd yn ddiweddarach, rhaid inni wynebu’r realiti sobreiddiol bod ein hafonydd yn parhau mewn cyflwr ecolegol peryglus. Mae tai y mae angen dybryd amdanynt yn parhau i gael eu dal yn ôl, ac mae rheolwyr tir yn aml yn teimlo eu bod wedi’u hallgáu o’r drafodaeth.”
Drwy wrando ar randdeiliaid ledled Cymru ac ymgysylltu â nhw, mae swyddfa’r Comisiynydd wedi casglu tystiolaeth a mewnwelediadau ymarferol ynghylch heriau afonydd ac ansawdd dŵr. Mae’r gwaith hwn wedi llywio cyfres o argymhellion sydd â’r nod o sicrhau ymateb mwy strategol, hirdymor ac integredig.
Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
Mae’r Comisiynydd yn pwysleisio bod yr atebion sydd eu hangen i wella ansawdd dŵr, yn y bôn, yr un fath â’r rhai sydd eu hangen i feithrin cydnerthedd Cymru i newid hinsawdd.
Gall rhoi atebion sy’n seiliedig ar natur ar waith, ehangu Rheoli Llifogydd yn Naturiol ar raddfa dalgylch, a grymuso a gwobrwyo ffermwyr i weithredu fel prif stiwardiaid y dirwedd wella ansawdd dŵr, lleihau perygl llifogydd, cryfhau cydnerthedd i sychder a chefnogi cymunedau gwledig ffyniannus ar yr un pryd.
“Ni ellir trin yr heriau cydgysylltiedig hyn fel agendâu polisi ar wahân mwyach. Mae arnom angen camau integredig sy’n adlewyrchu maint a brys yr heriau hyn,” meddai Derek Walker.
Mae’r Comisiynydd yn ceisio sicrwydd bod ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithredu yn cyfateb i’r brys a fynegir gan gymunedau ledled Cymru a chan bobl ifanc sy’n ymwneud â mentrau ar lawr gwlad, megis Grŵp Arweinyddiaeth Ieuenctid Wysg.
“Mae llawer ohonom yn gweithio’n galed i wella ein hafonydd, ond mae’n teimlo fel brwydr i fyny’r allt. Gofynnaf ichi wneud popeth o fewn eich gallu i adfer eu hiechyd a chefnogi’r rhai sydd eisoes yn gwneud y gwaith hwn. Mae fy nghyfoedion a minnau am weld gweithredu go iawn dros yr afonydd sy’n cynnal ein bywydau — gweithredu sy’n ein grymuso i arwain.” — Gwion Thomas, un o drigolion Crai, Grŵp Arweinyddiaeth Ieuenctid Wysg