Cipolwg a Newyddion
Gwneud cymunedau’n rhan gref o gynlluniau ynni, yn ôl galwadau’r Comisiynydd
Mawrth 18, 2026
Rhaid i Fargen Sector Ynni Adnewyddadwy newydd Cymru, a gyhoeddwyd heddiw gan Lywodraeth Cymru, ddarparu manteision pendant i gymunedau, meddai Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
Nod y Fargen yw datgloi 17.9GW o gapasiti adnewyddadwy, sicrhau £46.9 biliwn mewn buddsoddiad preifat ac arbed 13 miliwn tunnell o CO₂ ledled Cymru – sy’n cyfateb i allyriadau trydan blynyddol 1.7 miliwn o gartrefi.
Ond heb strategaeth hirdymor, adnoddau pwrpasol ac ymrwymiadau cadarnach, mae’r fargen yn parhau i fod yn waith sydd ar y gweill, meddai Walker.
Mae gan Gymru dargedau hinsawdd sy’n rhwymo’n gyfreithiol i gyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050, a tharged o 100% o’i thrydan i’w ddiwallu gan ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae’r galw am drydan yn cynyddu wrth i systemau trafnidiaeth a gwresogi fynd yn drydanol. Mae diogelwch ynni hefyd yn dod yn bryder cynyddol ar draws pedair gwlad y DU oherwydd ansefydlogrwydd byd-eang.
Croesawodd y Comisiynydd gynigion y Fargen ar gyfer rhaglen sgiliau gwyrdd hirdymor i Gymru, gan gynnwys ymgysylltu cynnar â STEM, cyflwyno tiwtoriaid y gweithlu mewn ysgolion, llwybrau prentisiaeth estynedig, ac adnoddau hyfforddi gwell i ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.
Ond rhybuddiodd na ddylai cynlluniau ynni yn y dyfodol ddod ar draul cynnwys y gymuned, tryloywder, uniondeb amgylcheddol, a thwristiaeth wledig.
Mewn cyngor ysgrifenedig i Rebecca Evans MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio , galwodd Derek Walker am i’r Fargen:
-Gael ei hategu gan weledigaeth hirdymor ar gyfer ynni adnewyddadwy yng Nghymru gydag eglurder ynghylch faint o ynni sydd ei angen a o ble y byddai hynny’n dod.
-Gwella tryloywder a gwneud cynnwys cymunedol ystyrlon yn ofyniad craidd
-Diogelu natur ac ardaloedd sy’n sensitif yn amgylcheddol a chreu gofyniontanddaearucryfach
-Lliniaru effeithiau seilwaith sero net ar gymunedau, twristiaeth wledig, amwynder gweledol, asedau naturiol a diwylliannol. Nid oes pwynt datrys un broblem wrth waethygu problemau eraill. Dyma’r dull integredig y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei nodi.
“Mae ymddiriedaeth y cyhoedd mewn seilwaith ynni adnewyddadwy yn dibynnu ar gyfranogiad effeithiol gyda chymunedau lleol a rhaid i Lywodraeth Cymru osod disgwyliadau a gofynion clir ar gyfer datblygwyr sy’n ceisio cyflawni prosiectau yng Nghymru a sicrhau bod gan gymunedau lais cryf yn y penderfyniadau.
“Rhaid i’r cytundeb ddarparu manteision i ddinasyddion a defnyddwyr, gan gynnwys cronfeydd budd cymunedol, opsiynau perchnogaeth a rennir, biliau is, a mynediad i’r grid i fusnesau lleol.”
Yn ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2025, tynnodd Mr Walker sylw at y rôl bwysig y mae’n rhaid i gynlluniau ynni cymunedol a chyhoeddus ei chwarae wrth gyrraedd sero net. Mae wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddyblu ei thargedau ynni cymunedol.
Dywedodd y comisiynydd fod yn rhaid i Lywodraeth newydd Cymru adeiladu ar y Fargen heddiw a mynd ymhellach i wneud yn siŵr bod trawsnewid ynni Cymru yn lleihau ei effeithiau ac yn darparu manteision ystyrlon i’r bobl a’r lleoedd yr effeithir arnynt fwyaf.