Mae tlodi plant yn uwch yng Nghymru nag yng nghenhedloedd eraill y DU, gyda 32% o blant yn byw mewn tlodi cymharol, ar ôl ystyried costau tai. Mae’r rhan fwyaf o’r plant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn dod o aelwydydd lle mae oedolion yn gweithio.
Mae rhoi diwedd ar dlodi plant yn gofyn am gamau brys i fynd i’r afael â chyflogau isel – y Cyflog Byw gwirioneddol yw’r unig raddfa gyflog yn y DU sy’n helpu pobl i ddal i fyny â chostau byw.
Mae’n seiliedig ar adroddiadau gan bobl go iawn ynghylch faint mae’n ei gostio i gwrdd ậ’u hanghenion sylfaenol; ar £14.10 yr awr, mae’n uwch na’r isafswm cyflog cyfreithiol a osodwyd gan lywodraeth y DU, sef £12.71 yr awr.
Mae ennill achrediad Cyflog Byw gwirioneddol yn golygu bod pob gweithiwr uniongyrchol yn derbyn y Cyflog Byw gwirioneddol – a bod gweithwyr o gontractwyr rheolaidd trydydd parti, megis staff diogelwch, glanhau a darparu bwyd, hefyd yn derbyn y Cyflog Byw gwirioneddol.
Yng Nghymru, dim ond 66% o weithwyr sy’n cael eu talu mwy na’r Cyflog Byw gwirioneddol, sy’n golygu bod traean o weithwyr Cymru’n cael anhawster i ymdopi ậ’r cynnydd mewn costau byw.
Er mwyn ymateb i’r her hon, mae dros 600 o gyflogwyr yng Nghymru wedi ymrwymo i dalu o leiaf y Cyflog Byw gwirioneddol i’w holl weithwyr.
Ers 2016, mae’r cyflogwyr achrededig hyn wedi sicrhau bod 20,400 o bobl ychwanegol yng Nghymru wedi gweld eu cyflog yn codi i lefel y Cyflog Byw Gwirioneddol, gan ychwanegu £141 miliwn at incwm gweithwyr sy’n ennill cyflogau isel.
Gall cyrff cyhoeddus arwain ymagweddau sy’n canolbwyntio ar leoedd penodol i hyrwyddo’r Cyflog Byw Gwirioneddol ymhlith busnesau lleol, a helpu i wneud Cymru yn genedl Cyflog Byw Gwirioneddol drwy ddod yn gyflogwyr achrededig Cyflog Byw Gwirioneddol.