Case Study
Gwaith Teg yng Nghymru – Cyflog Byw Gwirioneddol
Mae Gwasanaeth Tận ac Achub Bro Morgannwg a Gogledd Cymru’n talu cyflog teg ac yn gwella llesiant hirdymor eu gweithwyr drwy achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol.
Ond, gyda chyflogau nad ydynt yn cadw i fyny â chostau byw cynyddol, a chyfraddau tlodi uchel, mae mwy a mwy o bobl ar eu colled.
Dyna pam rydyn ni wedi galw ar bob sefydliad yn y sector cyhoeddus i ymrwymo i gynllunio sut i ennill achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol erbyn 2027.
Yr heriau:
- Mae 29% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac roedd 21% o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn 2023.
- Gallwn ddisgwyl treulio, ar gyfartaledd, 20 mlynedd olaf ein bywydau mewn iechyd gwael, ac nid yw’r bwlch mewn disgwyliad oes rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r rhai lleiaf difreintiedig yn lleihau.
- Mae traean o bobl yng Nghymru yn ennill llai na’r Cyflog Byw Gwirioneddol; dyma’r gyfran isaf ers degawd.
Y Cyflog Byw Gwirioneddol yw’r unig gyfradd cyflog yn y DU sy’n seiliedig yn unig ar gostau byw. Caiff ei gyfrifo’n annibynnol yn seiliedig ar gostau byw gwirioneddol, yn hytrach na lleiafswm gofynion cyfreithiol.
Mae achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol:
- Yn golygu bod gweithwyr uniongyrchol sefydliad, yn ogystal â gweithwyr cyflenwyr rheolaidd, yn derbyn tậl teg am eu gwaith
- Yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol i gyrff cyhoeddus gyfrannu at adeiladu cyfoeth cymunedol ac economi tecach
- Yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd sydd o dan bwysau mawr ac sy’n wynebu argyfwng costau byw, drwy sicrhau eu bod yn gallu fforddio hanfodion bywyd, megis tai, bwyd ac ynni.
Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn arf hollbwysig ar gyfer cyflawni economi llesiant yng Nghymru – economi lle mae pobl, y blaned a meddwl hirdymor yn allweddol bwysig.
Mae Cyngor Bro Morganwg yn rhoi gwaith teg wrth wraidd y modd y maent yn gwasanaethu eu cymuned a’u gweithlu drwy ennill achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol.
Ers 2022, mae’r Cyngor wedi bod yn cynyddu ei raddfeydd cyflog isaf yn gyson o £12.60 i £13.45, ac ym mis Tachwedd 2025 enillodd statws swyddogol fel cyngor achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol.
Drwy dalu cyflog i’w staff sy’n adlewyrchu costau byw, nid y lleiafswm statudol yn unig, bydd y Fro yn:
Y Cynghorydd Lis Burnett, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg
Cyn iddynt ennill achrediad, roedd codiadau cyflog yn rhan integredig o gylchoedd ariannol a chyllidebol tymor canolig. Nawr, maent yn ystyried cynnwys cynnydd Cyflogau Byw Gwirioneddol mewn cynllunio tymor hwy a mabwysiadu ymagwedd fwy ataliol at y modd y maent yn gwario eu harian.
Er mwyn cefnogi eu cyflenwyr i fabwysiadu’r Cyflogau Byw Gwirioneddol, mae Bro Morganwg yn defnyddio dull cam wrth gam; rhoi blaenoriaeth i gontractau newydd a chategorïau effaith-dwys, darparu canllawiau i gyflenwyr, a thynnu sylw’n gynnar at ddisgwyliadau trwy ddiweddaru eu strategaeth gaffael i annog cyflenwyr i fabwysiadu’r Cyflogau Byw Gwirioneddol.
Maent hefyd wedi gweithio gydag undebau llafur i sicrhau consensws ynghylch effeithiau gwerthuso cyflog a swyddi, a byddant yn cefnogi cyrff cyhoeddus eraill gyda chyngor ymarferol i’w tywys trwy achrediad.
Gwaith teg yng Ngwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
Fel y corff cyhoeddus cyntaf yng Ngogledd Cymru i ennill achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn dangos arweinyddiaeth gref o fewn y sector cyhoeddus trwy gefnogi cymunedau lleol a lleihau tlodi mewn gwaith.
Gan gyfrannu’n uniongyrchol at eu hamcan llesiant o Fod yn y lle iawn, ar yr amser iawn, gyda’r sgiliau cywir, mae talu cyflog teg wedi eu helpu i gwrdd â chostau byw gwirioneddol; lleihau straen ariannol i weithwyr a’r effaith gysylltiedig ar iechyd corfforol a meddyliol.
Mae’r Gwasanaeth yn credu bod hyn yn creu amgylchedd gwaith mwy cadarnhaol lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi, gan helpu i wella morâl, ymgysylltiad a chymhelliant ar draws y sefydliad.
Mae’r achrediad hefyd yn cefnogi Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i greu amgylchedd gwaith mwy cadarnhaol, lle mae staff sy’n ymgysylltu ac wedi eu hysgogi, yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.
“Credwn fod y fenter hon yn cryfhau ein diwylliant fel cyflogydd gofalgar a chyfrifol. Mae’n bwysig cydnabod y gwerth sydd i’w gael o wybod bod ein pobl yn cael eu gwobrwyo’n deg am y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud wrth wasanaethu cymunedau ledled Gogledd Cymru.
Rwy’n pwysleisio bod y broses yn werthfawr iawn. Tra’i bod yn gofyn am gynllunio a chydlynu, mae’n rhywbeth y gellir ei gyflawni, ac mae’n cynnig gwerth sylweddol drwy ddangos ymrwymiad gwirioneddol i gyflog teg, llesiant gweithwyr, a bod yn gyflogydd cyfrifol.”