Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau a methodolegau dau beilot Rhagwelediad Strategol a gynhaliwyd gyda Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau). Er mwyn galluogi eraill i efelychu’r cynlluniau peilot, rydym wedi cynhyrchu dau ganllaw hwyluso y gellir eu defnyddio i gynnal gweithdai rhagweld tebyg.
Mae’r dull yn seiliedig ar ymchwil rhagwelediad strategol a arweiniwyd gan Dr Laura De Vito (Prifysgol Gorllewin Lloegr), sy’n dangos sut y gall cynnwys safbwyntiau hirdymor gryfhau’r broses o wneud penderfyniadau ar gyfer dyfodol cynaliadwy.
Mae’r ymchwil sy’n sail i’r peilotiaid yn dangos gwerth tystiolaeth sy’n canolbwyntio ar y dyfodol fel mewnbwn cyflenwol i lunio polisïau, gan helpu penderfynwyr i lywio ansicrwydd, rhagweld heriau sy’n dod i’r amlwg, a gwneud dewisiadau mwy gwybodus er mwyn gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Datblygwyd y gwaith hwn drwy gydweithrediad hirsefydlog rhwng Dr De Vito, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a Hwb Dyfodol, ac mae’n adeiladu ar y cydweithrediad hwnnw.