Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 888 [source_item_id] => 6340 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 43274 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 7b60b7b4-1438-4cc8-ba6a-f4be868aa04e [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Darllenwch ein Strategaeth Lleihau Allyriadau Carbon 2023-2026

 

Ein canlyniadau hyd yn hyn

2022-23

Ôl-troed Carbon Ffynhonnell Allyriadau Cwmpas 3 (tCO2e)

Gwastraff – 0.02

Teithio Busnes – 21.53

Gweithio o Gartref – 0.19

Cymudo – 0.02

Data Gwariant – 109.28

CYFANSWM – 131.16 tCO2e

 

2023-24

Ôl-troed Carbon Ffynhonnell Allyriadau Cwmpas 3 (tCO2e)

Gwastraff – 0.02

Teithio Busnes – 5.77

Gweithio o Gartref – 0.19

Teithio i’r Gwaith – 0.02

Data Gwariant – 64.666

CYFANSWM – 70.666 tCO2e

Sut ydym ni’n lleihau ein hôl troed carbon?

  • Polisi hedfan newydd sy’n annog pobl i beidio â hedfan o blaid opsiynau eraill i dargedu allyriadau teithio busnes
  • Mynd i’r afael ag ôl troed digidol trwy ddileu negeseuon e-bost a dogfennau o’n storfa cwmwl nad oes eu hangen mwyach, a newid porwr gwe diofyn y tîm i Ecosia sy’n ymrwymo i blannu coeden frodorol am bob 45 chwiliad rhyngrwyd
  • Cyflwyno addewid gwirfoddol i leihau ein heffaith bersonol trwy fesurau fel dydd Llun heb gig, prynu dillad ail-law neu ddefnyddio mwy o deithio egnïol

Dyma rai o’r arbedion a ragwelir o’r ymrwymiadau a wnaethom:

Menter Lleihau Arbed Carbon (tCO2e) Blwyddyn
Polisi Hedfan 5.79 2023/4
Rheoli E-byst Sbam 0.08 2024/5
Newid Porwr Gwe 0.12 2024/5
Hyfforddiant Eco-Lythrennedd 14.59 2025/6

 

Ripple Africa

Ym mlynyddoedd 1 a 2 rydym wedi bod yn falch o gefnogi Ripple Africa, gan wneud cyfraniadau at brosiect a arweiniodd at arbedion carbon sy’n cyfateb i’n hallyriadau gweddilliol.

Mae’r prosiect yn disodli tanau agored mewn cartrefi gyda stofiau coginio, gan leihau allyriadau a chynyddu diogelwch cartrefi yn sylweddol gan gynnwys lleihau llosgiadau mewn plant ifanc. Mae stofiau coginio yn cael eu hadeiladu â llaw, a dysgir menywod sut i’w hadeiladu, gan arwain at newid cynaliadwy hirdymor.

Mae Ripple Africa hefyd yn cefnogi urddas mislif i ferched a oedd fel arall wedi dibynnu ar ‘gariadon’ i roi arian iddynt am gynhyrchion mislif.

Mae’r gostyngiadau allyriadau a wneir gan Ripple Africa wedi’u hardystio gan Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd (UNFCCC): 2022/23 a 2023/24.