Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1448 [source_item_id] => 8977 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 63221 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => d4a4a36e-882a-444e-bcc5-188641f1a81d [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

“Y tu ôl i bob ystadegyn am anghydraddoldeb mae unigolyn a gafodd fywyd anoddach ac a fu farw’n rhy gynnar.

Mae’r dystiolaeth yn Adroddiad Llesiant Cymru diweddaraf yn dangos annhegwch cynyddol rhwng cenedlaethau, gyda gormod o blant a phobl ifanc yn byw mewn tlodi, llesiant gwaeth ac iechyd meddwl sy’n dirywio.

Mae disgwyliad oes iach bellach wedi gostwng am y pedwerydd cyfnod yn olynol, sy’n golygu na fydd person cyffredin yng Nghymru hyd yn oed yn cyrraedd ei ben-blwydd yn 60 oed mewn iechyd da.

Mae’r adroddiad yn atgyfnerthu neges fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol: byddwn yn wynebu dyfodol na fydd modd ei adnabod heb weithredu ar frys ar dlodi, gan gynnwys Cyflog Byw Gwirioneddol, mynediad tecach at fwyd a newid sylweddol tuag at wariant ataliol ar iechyd.

Rhaid i ni wneud gwell defnydd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i newid dyfodol Cymru fel bod pawb yn cael cyfle cyfartal a mynediad at yr hyn sy’n eu cadw’n iach ac yn dda, yn hytrach na derbyn y bydd llawer o bobl yn brwydro bob dydd i gael y pethau sylfaenol.

Mae’r methiant i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru a’r anghydraddoldebau sy’n dyfnhau bob blwyddyn yn fethiant strwythurol i weithredu, ac mae’n rhaid i bob gwleidydd gymryd cyfrifoldeb amdano.”

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol