Cipolwg a Newyddion
Yng Nghymru, gallai eich cod post olygu colli 19 mlynedd o fywyd iach Rhybuddiodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol na all Cymru fynd i’r afael ag anghyfartaledd iechyd drwy’r GIG yn unig
Hydref 15, 2026
Mae pobl yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru’n byw am lai o flynyddoedd mewn iechyd da na rhai mewn rhannau mwy cyfoethog o’r wlad.
Mewn ymateb i gyhoeddi adroddiad Llesiant Cymru: 2026, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker, wedi galw heddiw (Hydref 15) am symudiad sylweddol yn y ffordd mae anghyfartaledd iechyd yn cael ei ddelio ag o, gan rybuddio na all y GIG fynd i’r afael â’r broblem ar ei ben ei hun.
Mae’r adroddiad yn datgelu bwlch cynyddol rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a’r rhai sydd leiaf difreintiedig, gyda menywod yn wynebu gwahaniaeth o oddeutu 19 mlynedd o fywyd iach, a dynion yn wynebu gwahaniaeth o 18.1 mlynedd – y bwlch mwyaf ar gofnod ar gyfer dynion yng Nghymru.
Yn ogystal, mae’n dangos bod disgwyliad bywyd iach Cymru wedi disgyn am y pedwerydd cyfnod adrodd yn olynol, gyda’r disgwyliad bod menywod ond yn byw am 58.5 mlynedd mewn iechyd da, o’i gymharu gyda 59.2 ar gyfer dynion.
Mae’r Comisiynydd yn dadlau bod penderfyniadau a wnaed ar draws y llywodraeth ar dai, incwm, cyflogaeth, trafnidiaeth, bwyd, awyr iach a mynediad at fannau gwyrdd i gyd yn dylanwadu ar iechyd pobl ymhell cyn iddynt fod angen triniaeth feddygol.
Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru Wales yn tynnu sylw at fuddion buddsoddi yn yr ardaloedd hyn, gyda mynediad at fannau gwyrdd a mannau glas (e.e. parciau cyhoeddus, toeau gwyrdd, a llynnoedd, pyllau, ffynhonnau a systemau draenio cynaliadwy) sy’n gysylltiedig gydag iechyd meddwl gwell a buddion cymdeithasol o hyd at £28 am bob £1 a fuddsoddwyd .
Mae adroddiad Llesiant Cymru: 2026 Llywodraeth Cymru yn dangos bod y sefyllfa i bobl iau hefyd yn bryderus, gyda lles meddyliol yn dirywio a dim ond 18.3% yn cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol am o leiaf un awr y dydd.
Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle mae cynnydd hirdymor wedi’i wneud, gan gynnwys gwelliannau sylweddol mewn ansawdd aer ers y 1970au. Dywed y Comisiynydd bod hyn yn dangos bod newid yn bosib pan mae camau’n cael eu cymryd yn yr hirdymor er mwyn mynd i’r afael â chyflyrau sy’n effeithio ar iechyd pobl.
Mae eisiau i atal fod yn gyfrifoldeb a rennir ar draws Llywodraeth Cymru a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru – gyda’r nod o wella llesiant yn yr hirdymor, lleihau anghyfartaledd ac ysgafnhau’r pwysau ar wasanaethau sydd eisoes yn gwegian ar draws y wlad.
Mae’r Comisiynydd wedi gwneud sawl argymhelliad yma, gan gynnwys bod Cymru’n dod yn genedl Marmot gyntaf, er mwyn lleihau anghyfartaledd iechyd.
Mae hefyd yn gweithio er mwyn cynyddu cyflog teg drwy gael mwy o bobl i dalu Cyflog Byw Gwirioneddol, a mynediad tecach at fwyd, ac mae’n cefnogi byrddau iechyd i wario mwy ar atal afiechydon ar gyfer ein holl gymunedau.
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Derek Walker: “Ni ddylai ble mae rhywun yn byw bennu beth yw eu siawns o fyw bywyd iach, a bydd gwyrdroi’r duedd hon yn gofyn am fuddsoddiad cadarn a chamau gweithredu wedi’u cydlynu ar draws y llywodraeth, ac ymhell y tu hwnt i’r GIG.
“Mae buddsoddi mewn atal yn golygu, yn ogystal â chefnogaeth ar gyfer pawb er mwyn cynnal a gwella eu hiechyd, buddsoddi mewn cartrefi cynnes, aer glân, amgylchedd bywiog, bywyd iach, hygyrch, gwaith teg a gwasanaethau cyhoeddus yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn cael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl.
“Allwn ni ddim parhau i fod yn talu am ganlyniadau iechyd gwael heb wneud mwy i fynd i’r afael â’r hyn sy’n ei achosi, yn arbennig felly gan fod yr adroddiad yn dangos bod ein hiechyd yn parhau i ddirywio gydag anghyfartaledd yn mynd yn fwy, ac mae llawer ohonynt yn bethau y mae modd eu hosgoi. Bydd y dewisiadau rydym ni’n eu gwneud heddiw yn llunio iechyd Cymru am genedlaethau.”
Mae gwerth atal a thegwch rhagor na chostau dwys y GIG yn hysbys i bawb. Ond mae gwaith y comisiynydd hyd yma yn awgrymu y gallai buddsoddi mewn atal fod yn llai na’r disgwyl (llai na 5% i fyrddau iechyd er enghraifft).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n amcangyfrif y gall ymyriadau ataliol sicrhau enillion o hyd at £14 am bob £1 a fuddsoddir. Ac eto, mae gwariant ataliol yn hanesyddol wedi bod yn anodd ei adnabod a’i olrhain.
Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae tîm y Comisiynydd wedi datblygu adnodd creu cyllidebau atal y cyntaf o’i fath.
Gan lansio ar 22 Hydref, bydd yn helpu cyrff cyhoeddus i ddeall yn well faint maent yn ei wario ar atal problemau cyn iddynt godi.
Gallai’r dull hwn roi Cymru ar flaen y gad o ran buddsoddi mewn atal, gan helpu i yrru symudiad mwy hirdymor tuag at fynd i lygad y ffynnon wrth fynd i’r afael â phroblemau, yn hytrach na thalu am eu canlyniadau.
Ym mis Ionawr 2025, fe wnaeth y Comisiynydd annog Llywodraeth Cymru i ddiogelu ariannu ar gyfer atal a’i gynyddu flwyddyn ar flwyddyn, gan rybuddio bod pwysau cyllidebol tymor byr mewn perygl o danseilio buddsoddiad yn yr hirdymor.
Ar hyn o bryd, cyn cyllideb atodol yr hydref, mae’n adnewyddu’r alwad yna i Lywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru – yn annog gweinidogion i ddangos sut fydd eu penderfyniadau gwario’n mynd i’r afael ag achosion o iechyd gwael a helpu i gau’r bwlch sy’n lledaenu o ran disgwyliad bywyd iach.
Mae gan Gymru bellach ei Dirprwy Weinidog dros Atal cyntaf, sydd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru amddiffyn gwariant ar atal yn y gyllideb nesaf.
Bydd y Comisiynydd yn dadansoddi hyn fel rhan o’i waith i fynd i’r afael â phwysigrwydd a maint yr her.