Cipolwg a Newyddion
Datganiad: Rhaid i’r llywodraeth newydd ailadeiladu ymddiriedaeth y cyhoedd a gwneud penderfyniadau beiddgar, hirdymor i sicrhau system ddŵr gynaliadwy ac iach i genedlaethau’r dyfodol.
Mai 22, 2026
Ymateb Ymgynghoriad Derek Walker ar y Papur Gwyrdd: Llunio Dyfodol Llywodraethu Dŵr yng Nghymru
“Mae’n galonogol bod y Papur Gwyrdd yn adlewyrchu fy ngalwadau am sancsiynau sifil, gorfodi cyflymach, a chynllunio traws-sector ar draws amaethyddiaeth, tai, trafnidiaeth a defnydd tir i atal llygredd a llifogydd.
Mae gan Gymru gyfle unigryw i ail-lunio ei system llywodraethu dŵr mewn ffordd sy’n cryfhau diogelu’r amgylchedd, yn grymuso cymunedau, ac yn cyd-fynd yn llawn â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
I wireddu hyn, rhaid i’r Llywodraeth nesaf flaenoriaethu ansawdd dŵr, mabwysiadu dulliau ar sail dalgylch, cryfhau llais dinasyddion, a chynnal parhad mewn strwythurau cyflawni lleol.”
Dolen i ddarllen y llythyr ymateb llawn (a anfonwyd ar 7 Ebrill 2026)