Cipolwg a Newyddion
Datganiad: Rhaid i arweinwyr wneud mwy i baratoi ar gyfer effeithiau’r hinsawdd, rhybuddia Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Hydref 22, 2026
Dywedodd Derek Walker, cyn Uwchgynhadledd Cydnerthedd Hinsawdd Llywodraeth Cymru heddiw:
“Rhaid i arweinwyr Cymru ddangos mwy o uchelgais wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a sicrhau bod Cymru’n fwy cydnerth yn wyneb newid hinsawdd ym mhob penderfyniad a wnânt.
Wrth i arweinwyr y sector cyhoeddus gyfarfod heddiw, ar ôl i danau gwyllt ymledu ar draws Cymru ac wrth inni wynebu tywydd mwy eithafol, gan gynnwys llifogydd, rhaid i sefydliadau wneud mwy i addasu i newid hinsawdd er mwyn ein diogelu ni i gyd.
“Rydym eisoes yn teimlo effeithiau’r argyfwng hinsawdd a natur, a bydd yr effeithiau hynny’n dwysáu.
“Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar bob un ohonom, o sut rydym yn cadw’n gyfforddus ac yn ddiogel yn ein cartrefi, i sut rydym yn teithio, i’r bwyd sydd ar gael a’i gost. Ond mae cyfleoedd hefyd i wella bywydau os bydd Cymru’n gweithredu’n bendant.
Rhaid i arweinwyr, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, wneud mwy i baratoi drwy ddefnyddio’r dystiolaeth a ddarparwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU.
“Rhaid iddynt hefyd wneud y penderfyniadau cywir er budd pobol a’r blaned, cydweithio â’u cymunedau, a rhoi blaenoriaeth i ddiogelu ac adfer natur drwy’r camau a gymerant heddiw, wrth inni wynebu hinsawdd sydd wedi newid sut olwg fydd ar ein dyfodol.”