Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1096 [source_item_id] => 62417 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 8695 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => 7ee459f7-7323-43c0-9d66-16fe3fbc2e4c [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Derek Walker

Mae adroddiad newydd gan wleidyddion y Senedd wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cynnwys cymunedau ledled Cymru wrth lunio dyfodol gwell i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi croesawu’r adroddiad, a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn dilyn ei graffu ôl-ddeddfwriaethol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Archwiliodd y pwyllgor trawsbleidiol – sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru, Llafur Cymru a’r Ceidwadwyr Cymreig – sut mae’r gyfraith nodedig yn cael ei gweithredu a sut y gellid ei chryfhau ar gyfer y dyfodol.

Cyflwynwyd tystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Senedd gan ystod eang o sefydliadau a rhanddeiliaid o bob cwr o sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol Cymru.

Cafodd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ei llunio gan sgwrs genedlaethol yn 2014. Cymerodd mwy na 5,000 o bobl ran yn y ddeialog “Y Gymru a Garem”, gan helpu i ddiffinio’r uchelgeisiau y tu ôl i’r hyn a ystyrir bellach yn ddeddfwriaeth flaenllaw yn y byd i wella llesiant cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol Cymru.

Mae adroddiad y Pwyllgor yn dilyn cyhoeddi Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol – asesiad pum mlynedd o’r cynnydd y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud tuag at nodau llesiant cenedlaethol Cymru, gan gynnwys cryfhau camau gweithredu ar yr amgylchedd a’r economi, a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a’r argyfwng diwylliannol.

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Mae adroddiad trawsbleidiol heddiw gan Bwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn foment bwysig ar gyfer dyfodol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n galonogol gweld gwleidyddion o bob plaid yn cydnabod y cynnydd y mae’r Ddeddf wedi helpu i’w yrru a’r angen i’w chryfhau ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

“Rwy’n arbennig o falch o weld y Pwyllgor yn adleisio sawl un o’r argymhellion a nodais yn fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol y llynedd, gan gynnwys yr angen am adolygiad ffurfiol o’r ddeddfwriaeth ac ymdrech newydd i gynnwys cymunedau ledled Cymru wrth lunio ei dyfodol.

“Os yw’r Ddeddf am barhau i fod yn berthnasol ac yn gallu ymdopi â’r heriau y mae Cymru yn eu hwynebu, rhaid iddi barhau i esblygu a chael ei chefnogi gan y cryfder cyfreithiol sydd ei angen i gyflawni newid go iawn.

“Rwyf hefyd yn croesawu cydnabyddiaeth y Pwyllgor o’r gwerth am arian a ddarperir gan fy swyddfa wrth gefnogi cyrff cyhoeddus ledled Cymru i droi uchelgeisiau’r Ddeddf yn newid ymarferol i bobl a chymunedau – gan ymgorffori meddwl hirdymor, atal a chydweithio yn y ffordd y gwneir penderfyniadau ledled Cymru.

“Mae’r Ddeddf eisoes wedi dylanwadu ar benderfyniadau mawr o drafnidiaeth ac addysg i fentrau dan arweiniad y gymuned ledled y wlad. Ond mae’r adroddiad hwn yn gyfle i edrych ymlaen. Mae llawer mwy y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd i wella llesiant hirdymor pobl yng Nghymru a sicrhau bod anghenion cenedlaethau’r dyfodol wrth wraidd penderfyniadau heddiw.

“Dyna pam y bydd yn hanfodol i bobl Cymru fod yn rhan o lunio’r bennod nesaf o’r ddeddfwriaeth hon. Yn union fel y gwnaeth miloedd helpu i lunio’r Ddeddf fwy na degawd yn ôl, rwyf am weld cymunedau ledled y wlad yn dod at ei gilydd i helpu i lywio sut mae’n esblygu ar gyfer y dyfodol.”

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau’r Senedd o bob plaid, Llywodraeth Cymru a phartneriaid ledled Cymru i fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor a pharhau i gryfhau’r ddeddfwriaeth flaenllaw hon.”

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi galw ar y Senedd i sefydlu Pwyllgor ar gyfer y Dyfodol, ac i bobl Cymru gymryd rhan weithredol yn llunio cam nesaf y ddeddfwriaeth fel rhan o’i hadolygiad.

Nododd y Comisiynydd 50 o argymhellion yn ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025.