Cipolwg a Newyddion
Peidiwch â throi’r cloc yn ôl yng Nghymru, rhybudd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, cyn penderfyniad am yr M4
Hydref 6, 2026
“Dydy’r argyfwng hinsawdd a natur ddim wedi diflannu. Maen nhw’n gwaethygu, fel y gwnaeth gwres eithafol marwol yr haf hwn, ysgolion yn cau a’r tarfu ar yr economi ei gwneud yn boenus o glir.
“Roedd rhesymau da dros wrthod Ffordd Liniaru’r M4, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn helpu i ddiogelu cynefinoedd naturiol hanfodol ac atal costau enfawr rhag cael eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol.
“Allwn ni ddim datrys problemau trafnidiaeth heddiw gydag atebion ddoe, ac mae’n rhaid i unrhyw gynllun newydd basio prawf cenedlaethau’r dyfodol unwaith eto, gan sicrhau gwell cysylltedd ledled Cymru, gwell trafnidiaeth gyhoeddus, mwy o ddewis i bobol ac atebion sy’n gweithio gyda chymunedau a natur, nid yn eu herbyn.”
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru