Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1429 [source_item_id] => 63196 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 8966 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => c5c22b69-a6a3-4f17-9ad9-83565a3312bc [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

“Rwy’n pryderu am y pwyslais cyfyngedig a roddir ar newid hinsawdd a natur yn Rhaglen Lywodraethu newydd Llywodraeth Cymru.

Bydd y camau hinsawdd y mae angen inni eu cymryd hefyd yn ein gwneud yn iachach, yn fwy llewyrchus ac yn fwy diogel ac, er bod cynllun Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o uchelgeisiau i’w croesawu, nid yw’n glir, naill ai yn y Rhaglen Lywodraethu nac yn yr Amcanion Llesiant, sut maent yn cysylltu â nodau llesiant hirdymor Cymru, na sut y byddant yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’n heriau cydgysylltiedig.

Ni ellir gwahanu gwella iechyd, cryfhau cymunedau, tyfu ein heconomi a lleihau anghydraddoldeb oddi wrth adfer natur ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd, sy’n gwneud bywyd yn anoddach i bob un ohonom ym mhob ffordd, boed eich bod yn cael trafferth talu i wresogi’ch cartref neu’n anfon eich plentyn i’r ysgol mewn ardal lle mae ansawdd yr aer yn wael.

Rwy’n croesawu’r ymrwymiad o’r newydd i adolygu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ar sail fy argymhelliad, ac edrychaf ymlaen at gyfrannu fel y gallwn gryfhau’r gyfraith hon a sicrhau nad ydym yn colli unrhyw gyfle i wella bywydau pobl yng Nghymru.

Mae gweithredu ar yr hinsawdd yn gwella bywydau pobl, ac nid problem yfory yw’r argyfwng hinsawdd mwyach; mae angen i’r ymateb fod yn hollgynhwysol.”

Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru