Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1309 [source_item_id] => 8862 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 63000 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 93810da8-598b-4136-ac5a-3ae61ac9a351 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Mae ein tîm wedi treulio blynyddoedd yn herio Llywodraeth Cymru i ddatblygu gweledigaeth a strategaeth hirdymor ar gyfer gwydnwch bwyd yng Nghymru. Felly, rydym yn croesawu’r cyhoeddiad yr wythnos hon am Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru. 

Rhaid i’r strategaeth hon lunio system fwyd sy’n sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu mwynhau bwyd fforddiadwy, lleol, iach a chynaliadwy. 

Heddiw, mae un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn dechrau’r ysgol gyda phwysau uwch na’r hyn sy’n iach. Mae cost cyrraedd y targed o fwyta ‘5 y dydd’ y tu hwnt i gyrraedd llawer o deuluoedd, ac nid yw un o bob pedwar aelwyd yng Nghymru yn gallu rhoi digon o fwyd ar y bwrdd. Yn y tymor hir, mae sicrwydd bwyd cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal â bywoliaeth ein ffermwyr, mewn perygl oherwydd gwrthdaro byd-eang, rhyfeloedd masnach a newid hinsawdd. 

Bydd cyd-gynhyrchu’r strategaeth gyda ffermwyr, tyfwyr a busnesau Cymreig, ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, bargeinion dinesig a thwf, a byrddau iechyd, yn ein helpu i integreiddio polisïau ar y bwyd rydym yn ei dyfu a’i gynhyrchu â’r canlyniadau y mae’n rhaid inni eu cyflawni ar gyfer iechyd y cyhoedd a natur. Rhaid i’r strategaeth hefyd gynnwys pobl sy’n byw gydag ansicrwydd bwyd. 

Mae gwydnwch bwyd yn gofyn am ddull gweithredu ar draws y llywodraeth gyfan. Mae hynny’n golygu bod angen i’n systemau cynllunio a chaffael, ein cynlluniau adfywio canol trefi a chymunedau, a’n polisïau amaethyddiaeth, iechyd ac addysg i gyd weithio tuag at system fwyd well. 

Mae ein Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 a’n canllawiau bwyd i awdurdodau lleol yn nodi’r camau y gallwn eu cymryd i dyfu, prynu a bwyta mwy o ffrwythau a llysiau Cymreig, cefnogi gwydnwch bwyd mewn cymunedau, hyrwyddo deietau iachach, ac ehangu’r ddarpariaeth o Brydau Ysgol am Ddim a llythrennedd bwyd mewn ysgolion.