Cipolwg a Newyddion
Mae angen y Cyflog Byw Gwirioneddol ar weithwyr i baratoi ar gyfer byd sy’n newid, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Tachwedd 8, 2026
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru am i bob gweithiwr rheng flaen mewn gwasanaethau cyhoeddus gael cyflog teg a chymorth gyda’u biliau ynni.
Bydd cynyddu nifer y cyflogwyr sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru yn helpu i ddiogelu pobol rhag biliau ynni cynyddol sy’n deillio o’r argyfwng hinsawdd, meddai Derek Walker.
Wrth i bobol barhau i ddioddef yn sgil costau byw cynyddol, mae Derek Walker am weld y sector cyhoeddus, busnesau a Llywodraeth Cymru yn ymrwymo’n fwy cadarn i sicrhau bod Cymru’n wlad lle mae pob gweithiwr yn ennill digon i fyw’n dda.
Yn wahanol i’r isafswm cyflog statudol yn y DU, caiff y Cyflog Byw Gwirioneddol ei gyfrifo’n annibynnol ar sail gwir gostau byw.
Mae talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, sydd wedi codi i £14.10 yr awr eleni, yn sicrhau bod gweithwyr yn gallu fforddio hanfodion fel rhent, bwyd, trafnidiaeth a gwresogi.
Eleni mae’n 25 mlynedd ers sefydlu’r Ymgyrch Cyflog Byw, sydd wedi helpu 20,400 o weithwyr yng Nghymru i gael codiad i’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hynny wedi rhoi £141 miliwn yn ychwanegol i bobol ar gyflogau isel yng Nghymru. Mae Trafnidiaeth Cymru ymhlith y cyflogwyr sy’n talu’r cyflog hwn.
Mae 19 o’r 55 corff cyhoeddus sy’n dod o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi’u hachredu’n gyflogwyr sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae hynny’n gynnydd o saith (o 12 i 19) ers i’r Comisiynydd bennu hyn yn flaenoriaeth, gan gynnwys Cyngor Powys a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a gafodd eu hachredu eleni.
Ond dim ond dau o’r saith bwrdd iechyd a chwech o’r 22 cyngor lleol sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Mae Derek Walker am weld:
Cyn Wythnos y Cyflog Byw Gwirioneddol, sy’n dechrau ddydd Llun, 9 Tachwedd, dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol:
“Ni ddylai’r bobol sy’n glanhau ein hysgolion a’n hysbytai, yn cadw ein mannau cyhoeddus yn ddiogel ac yn darparu bwyd i gymdeithas orfod troi at fanciau bwyd bob mis i gael dau ben llinyn ynghyd, na chael trafferth gwresogi eu cartrefi eu hunain.
“Mae talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol i bobol yn hanfodol er mwyn rhoi diwedd ar dlodi mewn gwaith a thlodi plant, a chefnogi pobol drwy’r argyfwng costau byw, y mae newid hinsawdd yn gwaethygu ei effeithiau.
“Mae’r cynnydd yn nifer y cyflogwyr sy’n talu’r cyflog hwn yng Nghymru yn galonogol. Nawr, rhaid i bob corff cyhoeddus dalu’r Cyflog Byw Gwirioneddol er mwyn cefnogi ei weithwyr mewn byd sy’n newid, ac wrth wynebu’r heriau a’r siociau sydd o’n blaenau.”
Dywedodd Emily Cotterill, Pennaeth Economi Deg Cynnal Cymru:
“Er mwyn creu Cymru sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol, mae angen cadwyn gyflenwi sy’n talu’r cyflog hwnnw hefyd, ac mae gan bob cyflogwr ran i’w chwarae.
“Rydyn ni’n falch o fod yn bartner achredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol yng Nghymru. Rydyn ni wedi cefnogi mwy na 600 o fusnesau drwy’r broses achredu, sy’n golygu ein bod yn gweld droson ni’n hunain pa mor awyddus yw ein cyflogwyr i wneud y peth iawn dros eu gweithlu.
“Rydyn ni’n gwybod bod mwy na 90% o gyflogwyr achrededig yn dweud eu bod wedi elwa ar achrediad, boed hynny drwy gadw staff yn well, lleihau absenoldeb salwch neu wella’u gallu i ennill contractau. Pa sector bynnag rydych chi’n gweithredu ynddo, mae cael eich achredu’n gyflogwr sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn ffordd glir o ddangos ymrwymiad eich sefydliad i waith teg.”
Dywedodd Fiona Meldrum, Prif Drefnydd Citizens Cymru: ‘‘Mae cyflogau isel yn un o’r materion mwyaf sy’n rhoi pwysau ar y cymunedau mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
“Mae ein cynghrair o sefydliadau ffydd, addysg a chymunedol yn annog pob cyflogwr yng Nghymru i weithredu o blaid gwaith teg, ac i ddod yn gyflogwyr sy’n talu’r Cyflog Byw gwirioneddol.
“Yn y cyfnod cyn etholiadau’r cynghorau lleol y flwyddyn nesaf, rydym yn annog mwy o awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i ymuno â mudiad y Cyflog Byw gwirioneddol drwy gael achrediad.’’
Mae Sparkles Cleaning Services Wales and West Ltd, sydd wedi’i leoli yn y Barri, yn cyflogi 35 o bobol ac enillodd Wobr Dewis Gweithwyr y Cyflog Byw yn 2022.
Dywedodd y rheolwr gyfarwyddwr, Ceri Jennings, a fydd yn bresennol yn nigwyddiad lansio Wythnos y Cyflog Byw Gwirioneddol ddydd Llun:
“Mae gwneud yr hyn sy’n bwysig i’n pobol wrth galon popeth rydyn ni’n ei wneud, ac mae ein hachrediad Cyflog Byw Gwirioneddol yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi a gwerthfawrogi ein tîm.
“Yn gyfnewid am hynny, mae gennym weithlu ffyddlon ac ymroddedig, fel y gwelir yn ein cyfraddau uchel o gadw staff.
“Byddwn i’n annog busnesau eraill i ystyried dod yn gyflogwyr sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae’n anfon neges rymus am y gwerth rydych chi’n ei roi ar bobol, yn cefnogi llesiant gweithwyr ac yn dangos ymrwymiad i roi rhywbeth yn ôl i’r gymuned leol. Nid yn unig talu cyflog teg yw’r peth iawn i’w wneud, mae hefyd yn gwneud synnwyr busnes da.”
Mae Cyngor Bro Morgannwg a Hard Lines Coffee ymhlith y cyflogwyr eraill sy’n talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol.