Cipolwg a Newyddion
Datganiad: Rhaid i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol ddod yn gynllun hirdymor Cymru ar gyfer tir, môr a chenedlaethau’r dyfodol
Tachwedd 20, 2026
Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi ymateb heddiw (20 Tachwedd) i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (FfDC), gan alw am i’r fframwaith diwygiedig fod yn fynegiant gofodol hirdymor o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Er ei fod yn croesawu’r uchelgais i ddechrau sgwrs genedlaethol am y Gymru y mae pobol am ei gweld erbyn 2050, mae’r Comisiynydd wedi rhybuddio bod rhaid i’r FfDC diwygiedig fynd ymhellach na dogfen gynllunio draddodiadol sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu a seilwaith.
Mae’r Comisiynydd yn dadlau bod galwadau cynyddol, sy’n cystadlu â’i gilydd, ar dir a môr Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i ddarparu ynni adnewyddadwy a chartrefi, cryfhau diogelwch bwyd, gwella cydnerthedd yn wyneb yr hinsawdd, rheoli adnoddau dŵr, adfer natur, a diwallu anghenion seilwaith newydd sy’n gysylltiedig â thechnolegau digidol a chanolfannau data. Ni all penderfyniadau ynghylch y pwysau hyn barhau i gael eu gwneud ar wahân i’w gilydd.
Wrth sôn am yr ymgynghoriad, dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
“Dyma un o’r cyfleoedd pwysicaf sydd gan Gymru i lunio’r dyfodol rydyn ni’n ei adael i’r genhedlaeth nesaf.
“Bydd Cymru’n wynebu dewisiadau cynyddol anodd ynghylch sut i ddefnyddio tir a pha anghenion i’w blaenoriaethu. Wrth i dechnolegau newydd ddod i’r amlwg ac wrth i’r galw am ynni, dŵr a seilwaith digidol gynyddu, rhaid i fframwaith tryloyw lywio’r penderfyniadau hynny. Rhaid iddo ystyried buddiannau cenedlaethau’r dyfodol a helpu i ddatrys galwadau sy’n cystadlu â’i gilydd mewn ffordd agored.
“Dylai Llywodraeth Cymru achub ar y cyfle hwn i ddatblygu fframwaith tir a môr gwirioneddol integredig i Gymru, er mwyn helpu i sicrhau bod penderfyniadau am dai, seilwaith, ynni, bwyd, natur ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd yn gweithio tuag at yr un nodau hirdymor yn hytrach na chystadlu â’i gilydd.”
Mae ymateb y Comisiynydd hefyd yn croesawu’r ymrwymiad i gynnwys y cyhoedd a’r bwriad i gasglu tystiolaeth ar ystod eang o faterion sy’n effeithio ar ddyfodol Cymru. Fodd bynnag, mae’n dadlau bod yr heriau sy’n wynebu Cymru mor frys fel na ddylai Llywodraeth Cymru aros nes bod y fframwaith diwygiedig wedi’i gwblhau cyn mynd i’r afael â gwendidau’r polisi presennol ar ddefnyddio tir.
Mae’r Comisiynydd wedi nodi bod diwygio’r FfDC yn gyfle pwysig i roi argymhellion Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 ar waith, gan gynnwys datblygu fframwaith tir a môr integredig sy’n cydbwyso ymrwymiadau i adfer natur, gweithredu ar yr hinsawdd, cynhyrchu bwyd, tai, seilwaith a datblygu economaidd, gan sicrhau bod tir a moroedd Cymru yn gallu diwallu anghenion cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.
Linc: Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Ymateb Comisiynydd Cenedlaethau Dyfodol