Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1273 [source_item_id] => 8834 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 62806 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 7d825ed5-2727-4194-a51b-0051fb4abf7c [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Datganiad Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru mewn ymateb i Siân Gwenllian AS:

“Rydym yn croesawu ymrwymiad Gweinidog y Cabinet i gyflwyno Bil Hawl Cymunedol i Brynu, cam hanfodol tuag at roi mwy o reolaeth i bobl dros y lleoedd sydd bwysicaf iddynt.

Fel y nodwyd yn ein galwad i weithredu, mae cymunedau ledled Cymru mewn perygl o golli asedau gwerthfawr fel tafarndai, parciau a neuaddau pentref heb hawliau a chefnogaeth gryfach. Bydd grymuso cymunedau i gymryd perchnogaeth yn helpu i amddiffyn y mannau hyn, cryfhau economïau lleol a gwella llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”

 

Datganiad gan Siân Gwenllian AS, Gweinidog y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio (9 Mehefin 2026).

“Cymunedau ffyniannus yw gwaed einioes ein cenedl, felly rwy’n bwriadu cyflwyno Bil hawl cymunedol i brynu. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i asedau cymunedol gwerthfawr, gan gynnwys adeiladau a thir ar gyfer tai, gael eu dwyn i berchnogaeth gymunedol.”

Darllenwch ddatganiad llawn Gweinidog y Cabinet.