Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1372 [source_item_id] => 62918 [source_blog_id] => 1 [destination_item_id] => 8856 [destination_blog_id] => 2 [relationship_id] => 09e96e84-f75d-47d4-8ee3-87a31257eac5 [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Three people stood on the balcony of a wind turbine looking down
Awel Co-op: Mynydd y Gwrhyd Wind Farm (Llun: Visit Wales)

Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, yn cyhoeddi adolygiad o bolisi ynni a’r broses o wneud penderfyniadau ynghylch ynni yng Nghymru.

Mae Prosiect Ynni yn fenter newydd sy’n edrych ar sut y gall Cymru bontio ar frys i ynni adnewyddadwy mewn ffordd sy’n sicrhau mwy o fanteision i gymunedau. 

Adolygiad o dan Adran 20 yw’r cryfaf o bwerau’r Comisiynydd, a bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gall Gweinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus gynllunio a chyflawni polisi a seilwaith ynni mewn ffordd sy’n cefnogi llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol yn well. 

Dywedodd Derek Walker fod unigolion, cymunedau a chyrff cyhoeddus yn dweud wrtho’n gyson fod ynni’n fater allweddol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, a’i fod yn nodwedd amlwg yn ei strategaeth saith mlynedd, Cymru Can. 

Dywedodd: “Nid yw Cymru ar y trywydd iawn i gyrraedd ei thargedau ynni adnewyddadwy, oni bai bod cyflymiad sylweddol yn digwydd, ac mae angen i’r system weithio’n well i bobl ac i’n planed. 

“Rwy’n cyhoeddi’r adolygiad hwn gan fod gennym gyfle i newid ein dull o ymdrin ag ynni er mwyn sicrhau bod cymunedau’n cael eu cynnwys yn well, a’n bod yn cael cyfran decach o’r manteision. 

“Gall cyfeiriad newydd i ynni yng Nghymru sicrhau mwy o berchnogaeth a llesiant i’n cymunedau, o brosiectau ynni adnewyddadwy lleol, i arbed ynni mewn ysgolion ac ysbytai a gwneud defnydd gwell o’n tir a’n hadeiladau. 

“Mae’r newid i ynni adnewyddadwy yn cynnig cyfle unwaith mewn cenhedlaeth i Gymru gynyddu’r budd i gymunedau, cryfhau cydnerthedd lleol a chefnogi llesiant hirdymor yn unol â’n Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol. 

“Bydd angen ystod eang o arbenigedd, profiad a safbwyntiau wedi’u llywio gan brofiad bywyd ar gyfer yr adolygiad hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at nodi argymhellion ymarferol i Weinidogion Cymru a chyrff cyhoeddus, gan gynnwys byrddau iechyd a chynghorau, fel y gallant sicrhau’r manteision mwyaf posibl i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.” 

Mae’r ystod o faterion ynni’n eang, felly bydd proses yr adolygiad yn cynnwys cam ymgysylltu ym mis Gorffennaf ac Awst, pan fydd cyrff cyhoeddus, grwpiau cymunedol, arbenigwyr, busnesau a sefydliadau’n gallu cyfrannu eu safbwyntiau cyn i ffocws yr adolygiad ffurfiol gael ei gyhoeddi ym mis Hydref, a chyn i gynlluniau ymgysylltu llawn gael eu cyhoeddi. 

Darllenwch fwy – Cwestiynau Cyffredin Prosiect Ynni