Cipolwg a Newyddion
Canlyniadau Holiadur Rhanddeiliaid 2025
Rhagfyr 15, 2025
Mae’n bleser gen i rannu gyda chi ganlyniadau ein Harolwg Rhanddeiliaid diweddar o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gwaith fy swyddfa. Mae hwn wedi bod yn ymarfer gwerthfawr a threiddgar — un nad ydym wedi’i wneud o’r blaen — ac mae wedi rhoi mewnwelediad pwysig i mi o weithrediad Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Wrth i ni ddechrau degawd newydd yn hanes y ddeddfwriaeth arloesol hon, mae’r canfyddiadau hefyd yn egluro bod llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau ei heffaith barhaus.
Asesodd yr arolwg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r ddeddfwriaeth, archwiliodd straeon am ei heffaith, a thynnodd sylw at gryfderau a heriau. Mae’r canlyniadau’n galonogol. Dywedodd bron i 80% o’r ymatebwyr wrthym fod ganddynt ddealltwriaeth dda o’r Ddeddf, gyda dim ond 4% yn dweud nad oeddent erioed wedi clywed amdani. Yn nhermau effaith broffesiynol, rhoddodd 85% sgôr a oedd o leiaf yn dri allan o bump, gan ddangos bod y mwyafrif helaeth yn credu bod y Ddeddf wedi dylanwadu ar eu gwaith neu eu sefydliad. Rhoddodd dros 75% o’r ymatebwyr sgôr o dri neu uwch allan o bump i’w hymwybyddiaeth, a dim ond 7% a ddewisodd y sgôr isaf. Roeddwn i’n arbennig o falch o weld y sgoriau ffafrioldeb cadarnhaol ar gyfer y swyddfa, gyda 86% yn sgorio o leiaf dri allan o bump yn eu hargraff o’n gwaith ni a gwaith fy nhîm.
Fodd bynnag, mae’r arolwg hefyd yn tynnu sylw at feysydd lle gallwn wella.
-Mae’r adroddiad yn awgrymu y gellir gwneud mwy i gynyddu ymwybyddiaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ymhlith rhai rhanddeiliaid. O ganlyniad, bydd fy swyddfa’n ceisio ehangu cyrhaeddiad ein sesiynau hyfforddi ar-lein ac wyneb yn wyneb. Rydym yn datblygu mwy o adnoddau hyfforddi mewn cydweithrediad â sefydliadau fel Llywodraeth Cymru i helpu pobl ym mhob rôl i ddeall a gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn effeithiol. Gallwch weld cyfleoedd dysgu sydd ar ddod yma ac mae ein hadnoddau yma. Canfu’r adroddiad grwpiau sydd angen gwybodaeth fwy targedig, fel aelodau etholedig lleol a Chynghorau Tref a Chymuned. Byddwn yn cynyddu ein cyfathrebiad â’r cynulleidfaoedd hyn.
– Amlygodd yr adroddiad rwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddwn yn gweithio gydag Ysgrifenyddion y Cabinet, swyddogion Llywodraeth Cymru ac eraill i oresgyn y rhwystrau hyn.
-Drwy amlygu’r heriau sydd angen fy sylw, roedd canlyniadau’r arolwg yn ddefnyddiol iawn. Byddaf yn ystyried y rhain wrth adolygu fy rhaglen waith a phan fyddaf yn ystyried meysydd newydd i’w hymchwilio.
-Rwy’n gwahodd Llywodraeth Cymru, y Senedd, cyrff cyhoeddus a sefydliadau eraill i adolygu’r adroddiad, a nodi’r camau y gallant eu cymryd i ehangu ymhellach y modd y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei gweithredu.
Hoffwn estyn fy niolch diffuant i bawb a gymerodd ran yn yr arolwg. Mae eich mewnbwn yn amhrisiadwy.
Dros y degawd diwethaf, mae’r Ddeddf wedi cael effaith sylweddol a chadarnhaol. Mae pobl yng Nghymru yn haeddiannol falch o’r ymagwedd hon tuag at wella llesiant a chynllunio ar gyfer yr hirdymor. Ond mae llawer mwy o waith i’w wneud ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i wireddu nodau llesiant hirdymor Cymru.
Derek Walker
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru