Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1245 [source_item_id] => 8701 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 61377 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => b18e1afb-9a8c-4102-a018-37a9aa973fcd [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Mae integreiddio asesiadau effaith yn ein galluogi i wneud pethau’n iawn yn y lle cyntaf ac arbed amser, arian a phoen i’n sefydliadau ond hefyd i’n cymunedau a’n hamgylchedd. 

Rydym i gyd eisiau amgylchedd ffyniannus, cymunedau bywiog ac iach, gwasanaethau cyhoeddus cynaliadwy a rhaid i ni helpu i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ein poblogaeth.

Mae asesiadau effaith ac yn enwedig Asesiadau Effaith Integredig wedi’u cynllunio at yr union ddiben hwnnw.  Maent yn ffordd i ni ystyried yr effaith y gall cynnig ei chael. Mae Asesiad Effaith da yn ymwneud ậ macsimeiddio’r effeithiau da, nid yn unig ậ lliniaru’r rhai negyddol. Maent yn ein helpu i gydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol, bod yn effeithlon a gwneud y peth iawn ar gyfer natur, ein poblogaeth a chenedlaethau’r dyfodol. 

Gyda’i gilydd maen nhw’n rhoi golwg ehangach a thymor hwy i ni i lunio polisïau a phenderfyniadau gwell ar gyfer ein pobl a’n planed. Maen nhw’n ein helpu i weld safbwyntiau a chanlyniadau amrywiol na fyddem wedi gallu eu gweld ar ein pennau ein hunain. 

Gan eu bod yn gymesur, maent yn sicrhau ein bod yn treulio’r maint cywir o amser yn casglu data gan ennyn ymgyfraniad cymunedau a chydweithwyr yn y sgwrs am effaith. 

Mae IIAs ac IAs mewn gwirionedd yn arbed adnoddau trwy osgoi: gwastraffu adnoddau gwerthfawr, biliau cyfreithiol, niwed i unigolion neu gymunedau a natur, costau gwneud iawn neu driniaeth ddiangen ac achosion cyfreithiol sy’n chwalu enw da. 

Maent hefyd yn ddulliau defnyddiol o fewn sefydliad i ddarparu: sicrwydd cydymffurfiaeth ac arfer da; tystiolaeth a data; maent yn darparu gwiriadau a chraffu mewnol. Maent hefyd yn cynnig cyfleoedd gwerthfawr i uwchsgilio timau i ddeall yn fwy cyfannol y byd yr ydym yn ei lywio sy’n mynd yn fwyfwy cymhleth. 

Mae asesiadau effaith yn ategu ei gilydd gan ein bod i gyd yn rhannu’r un amgylchedd a phoblogaeth yng Nghymru. Mae integreiddio asesiadau effaith yn helpu i sicrhau mai cynhwysiant yw’r nod diofyn yn ein polisïau, prosiectau ac amgylcheddau. Maent yn datgelu croestoriadolrwydd ac effeithiau cronnus fel y gallwn amddiffyn ein hecosystemau a’n cymunedau mwyaf agored i niwed yn well.  

Rydym yn clywed bod effeithiau economaidd weithiau’n ein trechu, a dyma pam mae angen i ni sicrhau bod effeithiau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol i gyd mor bwysig ậ’i gilydd. Mae gwahanol asesiadau effaith wedi’u creu, a rhai wedi’u gorfodi, i helpu i facsimeddio buddion i grwpiau penodol neu’r amgylchedd yn erbyn effeithiau a blaenoriaethau anghymesur. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn darparu ymbarél naturiol gan ei fod yn mynnu mynd ar drywydd y 4 dimensiwn cyfartal llesiant: yr economi, ein cymdeithas, yr amgylchedd a’n diwylliant. 

Cymuned Ymarfer Cymru – Ymunwch â ni

Yng Nghymru, mae gennym gymuned ymarfer sy’n gweithio gyda’i gilydd ac sy’n cefnogi ei gilydd i greu diwylliant ar draws y sector cyhoeddus lle mae integreiddio asesiadau yn elfen gynhenid. Rydym am fynd ag asesu effaith i’r lefel nesaf y tu hwnt i gydymffurfiaeth minimal. Rydym yn deall bod manteision yr ymarfer yn gorbwyso’r gost. Rydym yn rhannu’r hyn sy’n gweithio’n dda a’r hyn nad yw cystal, yn rhannu gwybodaeth ac awgrymiadau fel y gallwn arbed amser ac ymdrechion wrth wella ein harfer yn barhaus, yn ogystal â gwella llesiant cyffredinol ein pobl yr ydym yn eu gwasanaethu a’r blaned yr ydym yn ei meithrin nawr ac ar gyfer y dyfodol. Ymunwch â ni. Cysylltwch â ni. 

Gwybodaeth fwy manwl am ddiben ffafriol asesiadau effaith

01

Y Ddyletswydd Gymdeithasol-Economaidd

Daeth y Ddyletswydd Gymdeithasol-Economaidd i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Nod cyffredinol y ddyletswydd yw cyflawni canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais gymdeithasol-economaidd. Rhaid i gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i’r Ddyletswydd, wrth wneud penderfyniadau o natur strategol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i ddymunoldeb eu harfer mewn ffordd sydd wedi’i chynllunio i leihau’r anghydraddoldebau canlyniad sy’n deillio o anfantais gymdeithasol-economaidd. Mae’r Ddyletswydd yn berthnasol i dros 35 o awdurdodau cyhoeddus rhestredig yng Nghymru ac mae’n ofyniad cyfreithiol o dan Adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Darllenwch fwy

02

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus - Dyletswyddau Cyffredinol

Mae dyletswydd gyffredinol y PSED yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus dalu sylw dyledus i’r angen i ddileu gwahaniaethu; hyrwyddo cyfle cyfartal a meithrin cysylltiadau da. Ei phwrpas yw sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn meddwl am sut y gallant hyrwyddo cydraddoldeb ym mhob elfen o’u busnes o ddydd i ddydd. 

03

Dyletswyddau Penodol Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus - Asesu Effaith

Mae’r dyletswyddau penodol i Gymru yn helpu awdurdodau cyhoeddus rhestredig ymhellach i gyflawni perfformiad  dyletswydd gyffredinol yn well a chanolbwyntio ar geisio cyflawni canlyniadau cydraddoldeb gwell. Mae’r dyletswyddau hyn yn cwmpasu ystod o feysydd gan gynnwys amcanion cydraddoldeb, cynlluniau cydraddoldeb strategol ac asesu effeithiau polisi ac arfer. 

Mae penodau pump a chwech o Ganllawiau Technegol Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: Cymru yn darparu rhagor o wybodaeth ynghylch asesu effaith cydraddoldeb a monitro polisïau ac arferion. 

05

Cytundeb y Lluoedd Arfog

Mae Deddf Lluoedd Arfog 2021 yn gosod dyletswydd gyfreithiol (dyletswydd Cytundeb) ar gyrff penodedig i roi ystyriaeth briodol i egwyddorion Cytundeb y Lluoedd Arfog wrth ymarfer gweithgareddau statudol penodol ym maes gofal iechyd, addysg a thai. Dylai cyrff penodedig sicrhau bod mecanweithiau ar waith sy’n annog penderfynwyr i asesu sut gall eu penderfyniad effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaeth o Gymuned y Lluoedd Arfog o fewn cwmpas y Dyletswydd. Dysgwch rhagor yma ac yma. 

06

Asesiad Effaith Iechyd

Mae Rheoliadau Asesiad Effaith Iechyd (Cymru) 2025 yn rhoi dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru i gynnal Asesiad Effaith Iechyd wrth wneud penderfyniadau o natur strategol am sut mae’n ymarfer ei swyddogaethau. Rhaid sicrhau bod unrhyw effaith bosibl ar iechyd meddwl ac iechyd corfforol y boblogaeth a nodwyd, ynghyd ag anghydraddoldebau iechyd, yn cael eu hystyried yn systematig fel rhan o wneud penderfyniadau. Bydd y Rheoliadau yn dod i rym ar 6 Ebrill 2027, gan roi amser i gyrff cyhoeddus baratoi ar gyfer gweithredu ac integreiddio prosesau AIE priodol o fewn trefniadau llywodraethu presennol. Dysgwch fwy yma.