Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1256 [source_item_id] => 8810 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 62722 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 996cd7c9-414f-4d89-98d4-7b5a2b9c18db [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Derek Walker yn ymateb i adroddiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd.

“Mae Cymru yn fwy agored i effeithiau newid hinsawdd na rhannau eraill o’r DU, ond nid ydym wedi paratoi’n ddigonol. 

“Nid ydym eto’n addasu ar y raddfa nac ar y cyflymder sydd eu hangen. Mae addasu i’r hinsawdd yn golygu trwsio’r to cyn i’r storm daro — byddai’n esgeulustod difrifol pe baem yn parhau i anwybyddu’r angen i ddiogelu rhag stormydd tra bod cyfle gennym.

“Fel y mae’r adroddiad newydd hwn yn ei nodi, mae gweithredu heddiw yn rhatach na gweithredu yfory. 

“Yn Abertawe, mae cynllunwyr trefol yn rheoli llifogydd dŵr wyneb drwy atebion sy’n seiliedig ar natur. Yng Nghwm Taf Morgannwg, mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn nodi pa seilwaith sydd fwyaf agored i niwed yn sgil tywydd eithafol. Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos bod camau ymarferol, lleol eisoes yn gwneud gwahaniaeth. 

“Rwyf wedi parhau i bwyso ar gyrff cyhoeddus i weithredu, ac erbyn hyn mae pob rhan o Gymru yn gweithio ar asesiadau risg newid hinsawdd, o’i gymharu â dim ond hanner y wlad flwyddyn yn ôl. Yr hyn sydd ei angen nawr yw gweithredu cyflym a chydgysylltiedig ar draws sector cyhoeddus Cymru a thu hwnt. 

“Dim ond un rhan o addasu i’r hinsawdd yw paratoi ar gyfer mwy o lifogydd. Mae angen i addasu i’r hinsawdd fod yn rhan annatod o bopeth a wnawn — o gynhyrchu bwyd a gofal iechyd, i gynllunio seilwaith hanfodol.”