Cipolwg a Newyddion
Rhaid cydnabod bod newid hinsawdd yn effeithio ar bopeth, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ystod tywydd poeth sy’n torri recordiau
Mehefin 24, 2026
Nid bywydau yn unig sydd dan fygythiad yn sgil y tywydd poeth diweddaraf yng Nghymru sy’n torri recordiau, ond hefyd gwead diwylliannol a threftadaeth y genedl, meddai Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mewn neges gref i Aelodau newydd eu hethol o’r Senedd, dywedodd Derek Walker y gall diwylliant hefyd ein helpu i addasu ac ymateb i newid hinsawdd.
Mewn wythnos pan gyhoeddodd y Swyddfa Dywydd rybudd coch, gyda’r tymheredd yn debygol o gyrraedd 40 gradd, roedd Derek Walker ym Mhontypridd mewn digwyddiad yn trafod y gostyngiad yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n ymwneud â’r celfyddydau a diwylliant.
Mae newid hinsawdd yn fygythiad uniongyrchol i bopeth, gan gynnwys ein hasedau diwylliannol, o gestyll i iaith, meddai’r comisiynydd. Dylai llywodraethau a chyrff cyhoeddus weithredu i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Daeth dros 100 o arweinwyr o’r sectorau diwylliant a chyhoeddus ynghyd mewn digwyddiad yng nghanolfan gelfyddydol a chymunedol YMa ym Mhontypridd, a gynullwyd gan y comisiynydd, i drafod sut gall diwylliant helpu Cymru i ymateb i heriau’r dyfodol. Roedd y rhain yn cynnwys newid hinsawdd, anghydraddoldeb a sut i gynnig mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc.
Cynhaliwyd y Fforwm Diwylliant wrth i Gymru brofi effeithiau cynyddol newid hinsawdd, gan gynnwys cyfnodau o wres eithafol. Tynnodd sylw at yr angen brys i ystyried sut gall lleoliadau diwylliannol, traddodiadau, creadigrwydd a chyfranogiad addasu i hinsawdd sy’n newid, gan barhau i ddod â chymunedau ynghyd.
Canolbwyntiodd y digwyddiad ar flaenoriaethau’r sector diwylliant ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys mynd i’r afael â’r duedd bryderus bod llai o blant a phobl ifanc yn ymwneud â’r celfyddydau a diwylliant.
Roedd yn cefnogi argymhelliad y comisiynydd y dylai Cymru gael Deddf Diwylliant, sydd wedi ennyn cefnogaeth aruthrol y sector; rhoi mwy o flaenoriaeth i ddiwylliant ar draws meysydd polisi; a chynyddu’r cyllid i alluogi mwy o blant i gymryd rhan mewn diwylliant.
Rhannwyd enghreifftiau o arfer da yn rhyngwladol ac yn y Deyrnas Unedig. Roedd y rhain yn cynnwys rhaglen Culture Kids yn y Ffindir, lle caiff pob plentyn a anwyd yn 2020 neu wedi hynny wahoddiad i ddau ddigwyddiad am ddim bob blwyddyn nes iddo ddechrau’r ysgol; menter Children’s Capital of Culture Partneriaeth Ddiwylliannol Rotherham; a chyfraniad gan blant Ysgol Gynradd Gymraeg Llangynwyd ym Maesteg.
Clywodd y digwyddiad hefyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, y Trefnydd a’r Prif Chwip, Heledd Fychan, am flaenoriaethau’r sector. Cafwyd trafodaethau hefyd am rôl llywodraeth leol a sut gall diwylliant gyfrannu at bob maes polisi cyhoeddus, o iechyd a gweithredu ar yr hinsawdd i drafnidiaeth a chydlyniant cymunedol. Pwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd parhau i werthfawrogi’r celfyddydau a diwylliant a buddsoddi ynddynt er eu mwyn eu hunain, ac er mwyn mwynhad a lles pawb.
Cymru sydd â’r ail wariant isaf y pen ar ddiwylliant o blith holl wledydd Ewrop, ac mae Prydain yn un o’r gwledydd lle mae pobol ymhlith y lleiaf cysylltiedig â natur yn y byd.
Mae atebion sy’n seiliedig ar natur, fel gerddi glaw y tu allan i ysgolion, Llwybr Natur y Ddinas yn Abertawe a dinas sbwng Fienna, yn defnyddio diwylliant a lle i fynd i’r afael â newid hinsawdd ac addasu iddo.
Dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker: “Mae un o’r wythnosau poethaf a gofnodwyd erioed yn dangos bod yr argyfwng hinsawdd yn real, a bod angen i ni ei gydnabod yn fygythiad i bopeth, o’n hiechyd i’n diwylliant.
“Rydyn ni eisoes yn gwybod bod newid hinsawdd yn niweidio ein hasedau diwylliannol. Mae perygl y bydd cestyll yn diflannu, y bydd lleoliadau’n cael eu difrodi ac y bydd ieithoedd a thraddodiadau’n pylu. Y rhai sydd eisoes dan anfantais fydd yn dioddef fwyaf.
“Fel natur, mae diwylliant yn chwarae rhan hanfodol wrth ein helpu i ymateb i’r effeithiau dinistriol ac addasu iddynt, boed yn fardd lleol yn rhybuddio am lifogydd neu’n blant ysgol yn defnyddio straeon i fynnu dyfodol gwell. Mae angen i weithredu ar newid hinsawdd fod yn flaenoriaeth fwy i gyrff cyhoeddus a llywodraethau, ac mae angen mwy o ddatgarboneiddio, addasu i’r hinsawdd, ac atebion sy’n seiliedig ar natur.
“Mae diwylliant yn diogelu gwybodaeth leol, yn cryfhau cymunedau ac yn ysbrydoli gweithredu. Rhaid i ni ei warchod fel bod pawb yn gallu cymryd rhan, beth bynnag fo’u cefndir.”
Mae’r Fforwm Diwylliant yn rhan o waith ehangach y comisiynydd i gefnogi cyrff cyhoeddus a phartneriaid i wireddu uchelgeisiau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau bod penderfyniadau heddiw yn diogelu ac yn gwella llesiant diwylliannol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Bydd y trafodaethau’n helpu i lywio Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru, a fydd yn tynnu sylw at y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu Cymru pan gaiff ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Nodiadau i olygyddion