Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1072 [source_item_id] => 8647 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 62054 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 6a37a6da-5c4a-415f-98a0-2b7a8be46bdb [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Derek Walker sat on a lawn with artists Paskaline Maiyo and Keys in a group discussion.

“Nid oes gan genedlaethau’r dyfodol bleidlais; peidiwch â’u gadael nhw i atgyweirio difrod y gallwn ni ei ddatrys heddiw” meddai’r comisiynydd.

Heddiw bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhybuddio pleidiau gwleidyddol na ellir anwybyddu anghenion cenedlaethau’r dyfodol wrth i Etholiad y Senedd agosáu. Wrth i bleidiau baratoi ar gyfer etholiadau’r Senedd ym mis Mai, sef Etholiad Cyffredinol Cymru, mae Derek Walker wedi eu hannog i fynd i’r afael o ddifrif â’r heriau enfawr y mae’r genedl yn eu hwynebu yn amgylcheddol, yn yr economi, y GIG a hefyd heriau eraill. Mae Mr Walker yn ymddangos gerbron Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd heddiw i gyflwyno tystiolaeth ar gyflwr llesiant Cymru a’r angen am arweinyddiaeth polisi hirdymor cyn yr etholiad ym mis Mai. Mae’n dadlau bod angen i wleidyddion Cymru weithio ar frys neu fe fydd cenedlaethau’r dyfodol yn gorfod atgyweirio’r difrod sy’n gwaethygu fwyfwy.   

Dywedodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: “O argyfwng costau byw i anghydraddoldebau sydd wedi hen ymwreiddio ledled Cymru, o wasanaeth iechyd sy’n gwegian yn gyson ar ymyl y dibyn, i amgylchedd sy’n wynebu newid hinsawdd trychinebus – mae gan yr holl bethau canlyniadau mawr i’r dyfodol.”   

“Nid yw aelodau etholedig yn siarad yn unig dros y tair miliwn o bobl sy’n byw yng Nghymru heddiw, maent yn siarad dros y miliynau o bobl nad ydynt eto wedi’u geni. Bydd tua 360,000 o bobl, tua maint Caerdydd, yn cael eu geni yn yr 20 mlynedd nesaf yn unig. Bydd y dewisiadau a wnawn yn awr yn llunio eu bywydau, a rhaid i’w hanghenion nhw arwain y modd yr ydym ni yn ymateb i argyfyngau economaidd, amgylcheddol, iechyd a diwylliannol ein hoes ni.  

“Hyd yn oed gyda’r Senedd yn newid i dymor byrrach o bedair blynedd, rhaid i arweinwyr gwleidyddol gadw eu llygaid ar y dyfodol, gan anrhydeddu’r addewidion sy’n ddyledus i’n plant, ein hwyrion, a’r rhai sydd eto i ddod.  

“Rwy’n gweld delwedd obeithiol o Gymru ar gyfer y dyfodol, ond un y gellir ei gwireddu’n unig odan arweiniad swyddogion etholedig ym Mae Caerdydd a fydd yn cydweithio ac yn deall yr angen i weithredu ar frys. “Nid oes gan genedlaethau’r dyfodol bleidlais. Ni allwn eu gadael nhw i atgyweirio difrod y gallwn ni ei drwsio heddiw.” 

 Cymru yw’r unig wlad yn y byd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sydd wedi creu newidiadau gan gynnwys strategaeth drafnidiaeth iachach a ffocws ar lesiant nid yn unig ar Gynnyrch Mewnwladol Crynswth. Mae cynnydd yn nodau llesiant y gyfraith yn cael eu mesur gan ddangosyddion cenedlaethol gan gynnwys disgwyliad oes iach a llygredd aer. Bydd y comisiynydd yn tynnu sylw yn y Senedd heddiw at y ffaith fod cyflymder y cynnydd yn parhau i fod yn araf ac yn anwastad er bod rhai dangosyddion yn dangos cyfeiriad addawol. Bydd y comisiynydd yn gofyn i bleidiau gwleidyddol sicrhau bod eu maniffestos yn ymateb i heriau cyfredol a heriau’r dyfodol – o argyfyngau hinsawdd a natur, anghydraddoldebau iechyd a phwysau economaidd.    

Yn ei dystiolaeth, bydd y Comisiynydd hefyd yn galw ar y Senedd ac ar aelodau newydd eu hethol i sefydlu Pwyllgor ar gyfer y Dyfodol, i gryfhau craffu a chodi dealltwriaeth y cyhoedd o lywodraethu sy’n canolbwyntio ar y dyfodol ar draws y Senedd a busnes y llywodraeth, yn seiliedig ar gyrff tebyg yn y Ffindir, Lithwania a deddfwrfeydd byd-eang eraill. Mae 2026 yn nodi 10fed pen-blwydd rôl Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru ac mae Mr Walker, sydd bellach wedi bod yn y swydd ers tair blynedd, yn newid y modd yr ydym yn edrych ar fwyd ac iechyd; wedi helpu’r Cenhedloedd Unedig i ddilyn esiampl Cymru ar feddwl am y dyfodol; wedi herio Llywodraeth Cymru i roi’r gorau i gloddio glo am byth, a rhoi ffocws ar werth diwylliant.   

Mae hefyd wedi gorfodi newid fel bod Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar bob math o lygredd ym mhob afon yng Nghymru, nid yn unig y rhai gwarchodedig; wedi helpu i gynyddu llysiau Cymru mewn ciniawau ysgol, ac wedi cefnogi mwy o fusnesau i wella llesiant cenedlaethau’r dyfodol. O dan rôl y comisiynydd i ddwyn cyrff cyhoeddus a gwneuthurwyr penderfyniadau i gyfrif, mae ei Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol diweddaraf yn gwneud 50 o argymhellion ar ddiogelu lles hirdymor. Mae’r argymhellion yn cynnwys targed yn y gyfraith ar gyfer adferiad natur; mwy o gyfranogiad pobl wrth lunio polisïau ac adeiladu ymddiriedaeth; cynllun hirdymor i wella diogelwch bwyd Cymru a sicrhau mynediad cyfartal i ddeietau lleol, fforddiadwy, iach a chynaliadwy; cyllidebau atal blynyddol wedi’u clustnodi a chynllun Cyflog Byw Go Iawn gan bob corff cyhoeddus o fewn dwy flynedd, fel cam hanfodol ar gyfer mynd i’r afael â thlodi.   

Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae nifer y cyrff cyhoeddus sydd wedi’u hachredu i’r Cyflog Byw Gwirioneddol wedi cynyddu 30%, ac mae pob un o’r 13 Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus (a grëwyd o dan y gyfraith fel y gall cyrff cyhoeddus gydweithio’n well) yn gweithio ar asesiadau risg newid hinsawdd (argymhelliad arall).