Cipolwg a Newyddion
Datod y We: Model Partneriaeth Fwy Clyfar i Gymru
Mawrth 25, 2026
Gan Christopher Dawson-Morris, Cyfarwyddwr Cynllunio Rhanbarthol De-ddwyrain Cymru
Nid yw gweithio mewn partneriaeth ag eraill yn beth braf i’w gael – dyma’r sylfaen ar gyfer popeth yr ydym am ei gyflawni yn y sector cyhoeddus.
Rydym i gyd eisiau canlyniadau iechyd gwell i bobl, atal argyfyngau neu salwch, a chefnogi pobl i fyw’n dda yn eu cymunedau.
Ni ellir cyflawni dim o hyn trwy weithio ar eich pen eich hun.
Mae cynnwys, cydweithio ac integreiddio yn elfennau allweddol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn sylfaen i bopeth yr ydym am ei gyflawni yn y sector cyhoeddus.
Ond, mae ein rhwydwaith o 209 o gyrff partneriaeth Cymru yn we rhy gymhleth – dyna un bartneriaeth i bob 14,300 o bobl.
Canfu Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025 fod strwythurau partneriaeth presennol yn “rhy gymhleth”, ac mae llawer o adolygiadau cenedlaethol dros y degawd diwethaf wedi tynnu sylw at yr un materion:
Mae’n rhaid i ni ddeall ein strwythurau partneriaeth ein hunain er mwyn symud y system yn effeithiol tuag at atal, a chymryd camau ar y cyd i wella iechyd pobl, amddiffyn ein hamgylchedd a sicrhau dyfodol gwell.
Felly beth allwn ni ei wneud i wella canlyniadau iechyd Cymru?
Mae Grŵp Cyfoedion Cynllunio Cyfarwyddwyr y GIG wedi ystyried yr her hon. Comisiynodd adroddiad yn archwilio’r dirwedd bartneriaeth, ac mae ei ganlyniadau’n cyd-fynd ag argymhellion y comisiynydd ar gyfer symleiddio, pwrpas a rennir, a chydweithio cryfach.
Mae atebolrwydd democrataidd, cyfrifoldebau statudol, ôl troed daearyddol amrywiol ac archwaeth wahanol am weithio ar y cyd yn golygu nad oes ateb syml. Dyma pam mae’r adroddiad yn gwneud yr argymhellion canlynol:
1.Symleiddio strwythurau partneriaeth
2.Mabwysiadu Asesiadau Anghenion Strategol ar y Cyd
3.Adolygu gofynion y boblogaeth
4.Alinio gofynion cynllunio
1.Symleiddio strwythurau partneriaeth
Nid oes un model sy’n addas i bawb ar gyfer partneriaethau, ond mae’r rhai mwyaf llwyddiannus yn cael eu ffurfio o weithredu ar y cyd a diwylliant o gydweithio, yn hytrach na gorfodi, hierarchaeth neu ffiniau daearyddol.
Rydym wedi datblygu fframwaith cenedlaethol-ileol sy’n amlinellu rolau clir a llinellau atebolrwydd ar bob lefel a byddai’n cefnogi partneriaethau i gadw cynllunio tymor hir a phwysau tymor byr mewn cydbwysedd.
2.Creu sylfaen dystiolaeth unedig a mabwysiadu Asesiadau Anghenion Strategol ar y Cyd
Ar hyn o bryd, mae sefydliadau sy’n gweithio i ddatrys yr un problemau, fel lleihau gordewdra neu ddarparu gwasanaethau digonol ar gyfer ein poblogaeth sy’n heneiddio, yn dechrau gyda gwahanol seiliau tystiolaeth ac yn mesur cynnydd yn wahanol, gan arwain at ddata a dadansoddiadau dameidiog.
Os gofynnwch i Fwrdd Iechyd, Awdurdod Lleol, neu sefydliad yn y sector gwirfoddol beth yw’r boblogaeth yn eu hardal, mae’n debyg y cewch dri neu fwy o atebion gwahanol.
Ar hyn o bryd mae gormod o asesiadau ar wahân heb eu dwyn ynghyd, gan gynnwys asesiadau llesiant gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, asesiadau anghenion poblogaeth gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol, asesiadau cydraddoldeb gan gyrff cyhoeddus a datganiadau ardal gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Er mwyn ei gwneud hi’n haws blaenoriaethu atal a thargedu’r rhai sydd fwyaf mewn angen, mae angen i ni greu Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd unedig sy’n darparu un ddealltwriaeth gyffredin o anghenion y boblogaeth.
Yng Ngwent, mae eu Hasesiad Strategol ar y Cyd wedi darparu sylfaen dystiolaeth gyffredin ar draws y rhanbarth, ac maent wedi defnyddio hyn i lywio camau gweithredu, ochr yn ochr â chydgynhyrchu â chymunedau i wella’r nifer sy’n cael brechiadau drwy Sgwrs Fwr Brechu Gwent.
3.Adolygu gofynion y boblogaeth
Mae angen teilwra camau gweithredu partneriaeth yn well i anghenion lleol cymunedau gan fod polisïau cyfredol yn rhy ragnodol ynghylch y grwpiau a’r bobl y maent yn canolbwyntio arnynt.
Er mwyn cyflawni gwelliant cyson yn iechyd cymunedau, rhaid inni ddeall eu hanghenion a’u heriau penodol yn well.
Mae angen i unrhyw system newydd fod yn fwy hyblyg a defnyddio Asesiad Anghenion Strategol ar y Cyd lleol ochr yn ochr â chydgynhyrchu a chyfranogiad gwell i ganfod ble mae’r angen penodol ar gyfer pob ardal.
4.Alinio gofynion cynllunio
Fel gwasanaethau cyhoeddus, rydym wrth ein bodd yn cynhyrchu cynlluniau, mae llawer ohonynt yn statudol, ond yn aml nid ydynt wedi’u hintegreiddio ac maent wedi’u datblygu i wahanol fframweithiau, amserlenni a gofynion er gwaethaf cael yr un pwrpas: gwella llesiant eu poblogaeth.
Mae angen i ni ddod â chynlluniau statudol ynghyd trwy gynllunio gwell ac un fframwaith unedig – gan ddefnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Yna byddai camau gweithredu ar draws sefydliadau yn cael eu halinio, byddai partneriaid yn gweithio’n well gyda’i gilydd, a byddai ein camau gweithredu ar faterion integredig (tlodi, newid hinsawdd, cyflogaeth) yn fwy effeithiol.
Dangosodd Bargen Wigan, dull o ymdrin ag iechyd a gofal dan arweiniad dinasyddion, sut y gall nifer o gyrff cyhoeddus weithio gyda chymunedau i alinio o amgylch Bargen gyffredin sy’n rheoli’r galw am wasanaethau ac yn arbed arian tra hefyd yn trawsnewid sut mae pobl yn deall eu rolau wrth greu cymunedau llwyddiannus ac iach sy’n gwella disgwyliad oes iach.
Mae’r rhan fwyaf o bartneriaethau llwyddiannus yn cael eu ffurfio o weithredu ar y cyd yn hytrach na gorfodi. Ni ddylid ystyried symleiddio yn unig, nid yw ail-lunio a lleihau grwpiau yn llwybr awtomatig i wella’r ddarpariaeth.
Y canfyddiad mwyaf cyson o’r adolygiad hwn o Bartneriaethau Strategol oedd bod diwylliant o gydweithio a gweithio colegol a ddatblygwyd yn lleol yn cael ei ystyried yn bwysicach ac yn fwy pwerus na haildrefnu ffiniau, a gall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ddarparu’r catalydd cyffredin hwnnw.
Nid yw gwneud newid yn nhirwedd y partneriaethau yn hawdd. Ond i gyflawni’r newid trawsnewidiol sydd ei angen ar Gymru i wella ein hiechyd a’n llesiant, rhaid inni weithredu fel un system.
Nid uchelgais ar gyfer y dyfodol yw cydweithio; dyma sylfaen sut y mae’n rhaid inni weithio heddiw am yfory gwell.