Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1386 [source_item_id] => 8916 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 63121 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => 0b63d536-5da8-405f-a625-e8c3f511462b [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Mae’n bleser gennyf rannu fy Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2025-26, sy’n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth hybu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chyflawni fy strategaeth saith mlynedd, Cymru Can. 

Mae tonnau gwres yr haf hwn wedi dod â realiti newid hinsawdd yn nes atom, gan atgyfnerthu pam mae angen Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar Gymru: er mwyn sicrhau nad yw penderfyniadau tymor byr yn peryglu llesiant cenedlaethau sydd eto i ddod. 

Fy mhrif ffocws o hyd yw cefnogi cyrff cyhoeddus i gymhwyso Deddf LlCD yn fwy effeithiol a chynyddu cyfranogiad mewn prosesau gwneud penderfyniadau, gan sicrhau bod cymunedau’n helpu i lunio dyfodol Cymru. 

Darparodd fy nhîm a minnau gyngor arbenigol ar 492 o achlysuron; cafodd ein sesiynau hyfforddi a datblygu lefelau boddhad uchel o 6 allan o 7; a dywedodd 86% o’r rhanddeiliaid a arolygwyd fod ganddynt argraff gadarnhaol o’r Comisiynydd a’r tîm. 

Fe wnaethom ehangu Hwb Dyfodol, (hwb dyfodol a rhagwelediad Cymru), i fwy na 90 o aelodau. 

Mae cyhoeddi fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2025 eisoes wedi arwain at newid mesuradwy. 

  • Mae mwy na hanner argymhellion yr adroddiad bellach wedi’u derbyn neu eu mabwysiadu gan gyrff cyhoeddus. 
  • Mae pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru bellach yn cynnal asesiadau risg newid hinsawdd, o’i gymharu â dim ond hanner ohonynt cyn yr adroddiad. 
  • Bu cynnydd o 38% hefyd yn nifer y cyrff cyhoeddus sydd wedi ennill achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol, gan helpu i fynd i’r afael â thlodi mewn gwaith a gwella sicrwydd ariannol gweithwyr a theuluoedd. 

Gallwch ddod o hyd i grynodeb o’r ymatebion i argymhellion fy Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yma. 

Mae gwella cyfranogiad wedi bod yn flaenoriaeth arall wrth imi barhau i weithio gyda chymunedau, y sector gwirfoddol a chyrff cyhoeddus i gryfhau cyfranogiad mewn prosesau gwneud penderfyniadau. Bydd y gwaith hwn yn tyfu drwy ddatblygu Cymuned Cymru Can, cymuned ledled Cymru o hyrwyddwyr cenedlaethau’r dyfodol, y byddaf yn ei lansio yn ddiweddarach eleni. 

Ar draws meysydd fy nghenhadaeth, rwyf wedi parhau i gefnogi newid ymarferol: 

  • Hinsawdd a Natur: Mae ein gwaith wedi helpu i gryfhau camau gweithredu ar ynni cymunedol, afonydd glân ac addasu i’r hinsawdd. Mae 37 o gyrff cyhoeddus eisoes wedi mabwysiadu neu dderbyn ein hargymhelliad i gydweithio’n fwy â chymunedau wrth ddatblygu cynlluniau ynni lleol. 
  • Iechyd a Llesiant: Mae 32 o gyrff cyhoeddus wedi ymrwymo i fapio gwariant ataliol, gan gefnogi mwy o ffocws ar atal a chanlyniadau iechyd hirdymor. 
  • Diwylliant a’r Gymraeg: Mae ein gwaith wedi helpu i godi diwylliant yn uwch ar agenda polisi cyhoeddus Cymru, gan gyfrannu at ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i ystyried Deddf Diwylliant newydd, cryfhau darpariaeth ddiwylliannol, a chydnabod diwylliant fel cyfrannwr craidd at lesiant a chymunedau ffyniannus. 
  • Economi Llesiant: Rydym wedi cefnogi Cyd-bwyllgorau Corfforedig i wreiddio Deddf LlCD mewn prosesau gwneud penderfyniadau rhanbarthol, wedi hyrwyddo cyfraniad mentrau cymdeithasol at economïau lleol ffyniannus, wedi cynyddu nifer y cyrff cyhoeddus sy’n ennill achrediad Cyflog Byw Gwirioneddol ac wedi annog diwylliant o atgyweirio ac ailddefnyddio. 

Rwyf hefyd yn falch o’n heffaith eleni ar bolisi bwyd. Helpodd ein gwaith eirioli a’n cymorth ymarferol i sicrhau ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i strategaeth fwyd genedlaethol, cynyddu cyfranogiad yn Welsh Veg in Schools o chwech i 18 o awdurdodau lleol, ac annog 15 o gynghorau i ddatblygu cynlluniau cydnerthedd bwyd lleol.