Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1511 [source_item_id] => 9019 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 63315 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => fc290046-f805-489b-ad53-144c8ec8c06a [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Nid annog rhagor o brosiectau atal unigol yn unig yw ein huchelgais. Rydym am i atal ddod yn rhan o’r ffordd y mae sefydliadau’n cynllunio, yn gwneud penderfyniadau ac yn dyrannu eu hadnoddau. 

O dan Cymru Can, mae ein gwaith yn ceisio symud cyllidebau a chynllunio tuag at atal, ochr yn ochr â mwy o gydweithio rhwng gwasanaethau a sefydliadau. 

Ein Gwaith ar Atal

Archwiliwch yr Offeryn Mapio Cyllidebau

Offeryn Mapio Cyllideb Ataliol

Mae cefnogaeth eang i atal, ond mae angen ffyrdd ymarferol ar sefydliadau o ddeall faint o’u gwariant presennol sy’n ymwneud ag atal, ac ar ba lefel y mae’r atal hwnnw’n digwydd. 

Rydym yn helpu cyrff cyhoeddus i ddeall sut mae eu hadnoddau presennol wedi’u dosbarthu ar draws gwahanol lefelau atal, a ble y gallai fod cyfleoedd i symud buddsoddiad tuag at weithredu’n gynharach. 

Rydym wedi datblygu offeryn mapio cyllidebau sy’n cysylltu gwariant ag atal ac amcanion llesiant. 

Archwiliwch yr Offeryn Mapio Cyllidebau
Ein Gwaith ar Atal

Atal ym maes iechyd a gofal

Mae ein Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol yn argymell y dylid ymgorffori atal ar ddechrau llwybrau clinigol, ochr yn ochr â mesurau perfformiad sy’n cefnogi’r newid hwnnw. Yn ehangach, mae ein gwaith yn ceisio cynyddu gweithgarwch a buddsoddiad mewn atal a mynd i’r afael ag achosion sylfaenol iechyd gwael ac anghydraddoldebau.

Ein Gwaith ar Atal

Mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac achosion iechyd gwael

Rydym yn cefnogi datblygiad Marmot Cymru, un o’n hargymhellion, ochr yn ochr â gwaith ar y model cymdeithasol o iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd. Mae’r Swyddfa’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Sefydliad Tegwch Iechyd i ddatblygu dull Marmot Cymru a’i gysoni â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Dod â rhanddeiliaid allweddol ynghyd a chymryd rhan mewn penderfyniadau cyllidebol yn y dyfodol

Yn 2026–27, rydym wedi cynnull trafodaethau bord gron gyda’r sector iechyd, y trydydd sector ac awdurdodau lleol i archwilio ble y gallem nodi adnoddau ar gyfer atal ac i ddeall eu barn ar y pwnc. Bydd hyn yn cael ei ategu gan sgyrsiau uniongyrchol ag unigolion ledled Cymru, gan gynnwys tri grŵp ffocws. Cadwch lygad am ragor o wybodaeth. 

Ein Gwaith ar Atal

Meddwl Hir-dymor

Helpu sefydliadau i feddwl yn hirdymor

Mae atal a meddwl yn hirdymor yn atgyfnerthu ei gilydd. 

Mae ein gwaith rhagwelediad strategol wedi archwilio sut gall sefydliadau ragweld risgiau yn y dyfodol a nodi camau atal yn gynharach, yn hytrach nag ymateb dim ond ar ôl i risgiau ddod yn realiti. 

Meddwl Hir-dymor

Ysbrydoli cyrff cyhoeddus a’u helpu i wybod ble i fuddsoddi mewn atal

Rydym wedi comisiynu ymchwil i’r mentrau atal gorau yng ngwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD), er mwyn ysbrydoli ein cyrff cyhoeddus a’n cymunedau yng Nghymru. Disgwylir ei gyhoeddi yng ngwanwyn 2027. 

Offer

Atal

Darllen Mwy
Ein Gwaith ar Atal

Atal

Offeryn Mapio Cyllidebau Ataliol Cenedlaethau’r Dyfodol

Darllen Mwy
Ein Gwaith ar Atal