Search Icon

Array ( [0] => stdClass Object ( [id] => 1512 [source_item_id] => 9008 [source_blog_id] => 2 [destination_item_id] => 63326 [destination_blog_id] => 1 [relationship_id] => cf62cdc0-ae48-4946-b8ce-7bd114d91b1b [type] => translation [type_name] => Translation ) )

| ENG

Rydym wedi datblygu Offeryn Mapio Cyllidebau Ataliol Cenedlaethau’r Dyfodol i helpu sefydliadau i edrych ar eu cyllidebau o safbwynt atal a llesiant. Mae’n offeryn cyffredinol ar gyfer gwneud penderfyniadau, sy’n addas i bob sector a phob math o sefydliad.

Ei nod yw helpu sefydliadau i fapio eu cyllidebau neu eu cyfrifon yn fewnol er mwyn deall ble mae buddsoddiad yn mynd, a helpu i sbarduno newid tuag at atal, fel yr argymhellodd yComisiynydd yn Adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2025.

Beth mae’r offeryn yn ei wneud?

Mae’r offeryn yn galluogi sefydliad i fewnbynnu gwybodaeth am ei gyllideb (neu wybodaeth diwedd blwyddyn) a dosbarthu gwariant yn ôl gwahanol lefelau atal:

  • Atal sylfaenol: Meithrin cydnerthedd – creu’r amodau sy’n sicrhau nad yw problemau’n codi yn y dyfodol. Dull cyffredinol.
  • Atal eilaidd: Targedu camau gweithredu at feysydd lle mae risg uchel y bydd problem yn codi. Dull wedi’i dargedu sy’n ategu egwyddorion cyffredinoliaeth gynyddol.
  • Atal trydyddol: Ymyrryd pan fydd problem eisoes wedi codi, i’w hatal rhag gwaethygu ac i’w hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol. Dull ymyrryd.
  • Gweithgarwch cefnogol: Cost anuniongyrchol sy’n cefnogi neu’n galluogi gweithgareddau atal. Dull partneriaeth.
  • Gweithgarwch nad yw’n ymwneud ag atal: Gweithredu i reoli effaith sefyllfa ddifrifol o negyddol, ond heb atal problemau rhag codi yn y dyfodol. Dull unioni.

Gweler ein hadnoddau isod i’ch helpu i ddefnyddio’r dosbarthiadau hyn.

Yn yr offeryn mapio, gallwch ddewis dau gategori i rannu eich canolfannau cost. Mae’r offeryn hefyd yn eich galluogi i fapio pob canolfan gost yn erbyn eich amcanion llesiant neu’r saith nod llesiant, neu unrhyw elfennau eraill o’ch dewis.

Pam ei ddefnyddio?

Bwriad y gwaith mapio yw gwneud patrymau gwariant yn fwy gweladwy a chefnogi trafodaethau gwell am fuddsoddi yn y dyfodol, yn enwedig ynghylch cynyddu buddsoddiad mewn atal flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Dywedodd cyrff cyhoeddus a gymerodd ran yn ein cynllun peilot fod yr ymarfer wedi eu helpu i nodi gwariant sy’n gysylltiedig ag atal a bylchau mewn gwariant. Gallai hefyd gefnogi trafodaethau am werth am arian a helpu sefydliadau i roi mwy o flaenoriaeth fwriadol i atal.

Wedi’i ddatblygu drwy brofiad ymarferol

Datblygwyd yr offeryn ar y cyd â Sefydliad ZOE ar gyfer Economïau sy’n Addas i’r Dyfodol (ZOE Institute for Future-Fit Economies), a chafodd ei brofi gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Mae nifer cynyddol o gyrff cyhoeddus ledled Cymru yn defnyddio’r dull hwn neu’n ystyried ei ddefnyddio.

Lawrlwythwch yr offeryn a dechrau arni

Mae ein hofferyn yn cynnwys tab o’r enw ‘Canllaw’, sy’n rhoi arweiniad cam wrth gam ar sut i’w lenwi. Mae’r tabiau ‘Atal’ yn eich galluogi i fapio eich cyllidebau yn erbyn y gwahanol lefelau atal, ac mae’r tabiau ‘Llesiant’ yn eich galluogi i fapio eich cyllidebau yn erbyn amcanion llesiant, y nodau llesiant, neu unrhyw elfennau eraill, er mwyn creu cyllideb llesiant.

Mae’r tab ‘Canlyniadau’ yn darparu dangosfwrdd sy’n cyflwyno’r canlyniadau fesul categori a blwyddyn, gyda diagramau i’ch helpu i gyfleu’r canlyniadau i eraill.

Yn barod i fapio eich cyllideb?

Lawrlwythwch yr Offeryn Mapio Cyllidebau Ataliol

Er mwyn rhoi syniad i chi o sut mae’r offeryn yn gweithio, rydym wedi llenwi’r tabiau atal â data enghreifftiol. Gallwch edrych ar yr enghraifft a rhoi cynnig ar yr offeryn cyn dechrau mapio eich cyllideb eich hun gan ddefnyddio’r offeryn uchod.

Gweler enghraifft wedi’i chwblhau â data ffug

Dosbarthu canolfannau cost

Yn ogystal â’r tab ‘Canllaw’ yn yr offeryn ei hun, rydym wedi creu’r dogfennau canlynol i’ch helpu i fapio eich canolfannau cost yn erbyn y gwahanol lefelau atal. Cofiwch ein bod yn edrych ar atal heriau sy’n effeithio ar boblogaethau, lleoedd neu’r amgylchedd, yn hytrach nag atal problemau sy’n effeithio ar wasanaethau neu ar ddarpariaeth gwasanaethau eich sefydliad neu sefydliadau eraill yn y dyfodol.