Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025
Wedi'i gynllunio i gefnogi gwleidyddion ac arweinwyr cyrff cyhoeddus i wneud bywyd yn well i bobl a'r blaned nawr ac yn y dyfodol.
Rhai o'r camau gweithredu brys o Adroddiad Cenedlaethau'r Dyfodol 2025 y mae'r Comisiynydd yn galw ar wleidyddion a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i'w cyflawni.
01
Rhaid i wleidyddion a chyrff cyhoeddus ymrwymo i ddyfodol hirdymor Cymru, gan osod cynlluniau nid yn unig ar gyfer y pum mlynedd nesaf, ond y 50 mlynedd nesaf.
02
Mae dadgarboneiddio yn lleihau costau, mae adfer natur yn hybu iechyd y cyhoedd, ac mae prynu swyddi lleol yn cefnogi. Mewn cyfnod ariannol heriol, rhaid inni ganolbwyntio ar gamau gweithredu sy'n cyflawni sawl buddugoliaeth.
03
Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu tîm arbenigol i helpu cyrff cyhoeddus i baratoi cynigion parod ar gyfer buddsoddiad a all ddenu cyllid preifat ar gyfer adfer natur a phrosiectau sero net.
04
Rhaid i bob corff cyhoeddus ymrwymo i gynllun, o fewn dwy flynedd, sy'n amlinellu amserlen i gyflawni achrediad Cyflog Byw Go Iawn. Hyd yn hyn, dim ond 13 o 56 o gyrff cyhoeddus sydd wedi gwneud hynny. Mae hwn yn gam hollbwysig wrth fynd i'r afael â thlodi.
05
Rhaid i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus amddiffyn a chynyddu cyllidebau atal bob blwyddyn a symud tuag at drefniadau ariannu hirdymor.
06
Rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun hirdymor i wella diogelwch bwyd Cymru a sicrhau mynediad cyfartal at ddeietau lleol, fforddiadwy, iach a chynaliadwy.
07
Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Diwylliant yn y Seithfed Senedd (2026–2030), gan wneud diwylliant yn ofyniad statudol ar gyfer cyrff cyhoeddus a diogelu ein hawliau diwylliannol.
08
Rhaid i gyrff cyhoeddus adnewyddu eu hymdrechion i gynnwys pobl wrth lunio polisïau, gan leihau'r bwlch rhwng llunwyr polisi a dinasyddion.
09
Rhaid i Lywodraethau’r DU a Chymru gynyddu cyllid gwasanaethau cyhoeddus o flwyddyn i flwyddyn. Mae cyni ariannol wedi arwain at doriadau difrifol, gan adael gwasanaethau mewn trafferthion.
10
Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu a symleiddio strwythurau partneriaeth ledled Cymru i wella effeithlonrwydd a lleihau biwrocratiaeth.
11
Dylai Llywodraeth Cymru gychwyn adolygiad ôl-ddeddfwriaethol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wella ei heffaith ac i baratoi ar gyfer Nodau Datblygu Cynaliadwy wedi'u diweddaru gan y Cenhedloedd Unedig yn 2030. Rhaid i'r adolygiad hwn gynnwys deialog gyhoeddus ar y Gymru yr ydym ei heisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Gwneud
Archwiliwch y mudiad dros newid ledled Cymru lle mae pobl yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i wella bywydau nawr a'r dyfodol.
Darllen Mwy