Cipolwg a Newyddion
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn dweud bod rhaid i gynlluniau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru basio prawf cenedlaethau’r dyfodol
Hydref 6, 2026
“Dylai pawb yng Nghymru allu cyrraedd lle mae angen iddyn nhw fynd – a gallwn gefnogi ein heconomi ar yr un pryd â chael aer glân, byd natur sy’n ffynnu, cyfleoedd cyfartal a dyfodol iach i’n plant a’n hwyrion.
“Allwn ni ddim fforddio mynd am yn ôl o ran trafnidiaeth, yn enwedig pan fo adolygiad blaenorol o dagfeydd yr M4 yng Nghasnewydd eisoes wedi tynnu sylw at atebion mwy cynaliadwy.
“Cafodd pobol addewid o drafnidiaeth gyhoeddus well pan wrthodwyd Ffordd Liniaru’r M4 yn bendant. Er ei bod yn gadarnhaol gweld ymrwymiadau i wella gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd, mae angen cyflawni’r addewidion hynny’n gyflym nawr.
“Rwyf hefyd yn hynod bryderus nad yw diogelu ac adfer ein hamgylchedd yn cael yr amlygrwydd sydd ei angen ar frys, ac rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd i bobol na fydd unrhyw waith adeiladu ffyrdd sy’n peryglu safleoedd natur gwerthfawr yn cael ei ystyried.
“Mae’n rhaid i drydedd groesfan dros y Fenai sy’n gwella cysylltedd i bobol heddiw gyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol Cymru i genedlaethau’r dyfodol, ac rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn sut mae wedi ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wrth wneud penderfyniadau heddiw.
“Rhaid i’r camau nesaf ar y materion trafnidiaeth cymhleth hyn ddefnyddio’r hyn sydd eisoes wedi’i ddysgu o adolygiadau blaenorol, gwrando ar y cymunedau dan sylw ac edrych y tu hwnt i’r pwysau uniongyrchol at y Gymru rydym yn ei chreu i genedlaethau’r dyfodol, gan sicrhau y bydd hwn yn fuddsoddiad doeth ymhen 50 mlynedd.”
Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar groesfannau’r Fenai a’r M4 o amgylch Casnewydd, 6 Hydref 2026.