Search Icon

| ENG

Cwrdd â'r Comisiynydd

Herio a chefnogi’r rhai sydd mewn grym i wneud penderfyniadau da heddiw er mwyn cael gwell yfory.

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yw Derek Walker.

Ei rôl annibynnol, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yw cefnogi a herioCymru i wneud penderfyniadau er llesiant gorau pobl sydd heb eu geni eto.

Yn ôl ygyfraith, ei ddyletswyddau yw:

  • Hyrwyddo’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn arbennig gweithredu fel gwarcheidwad ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion ac annog cyrff cyhoeddus i roi mwy o ystyriaeth i effaith hirdymor y pethau a wnânt.
  • Monitro ac asesu i ba raddau y mae amcanion llesiant a osodwyd gan gyrff cyhoeddus yn cael eu cyflawni.

Drek Walker | Comisiynydd Cymru

Bywgraffiad

Am Derek

Dechreuodd Derek Walker fel Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol annibynnol Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi, 2023, pan alwodd am ‘newid brys a thrawsnewidiol’, gan arwain at ei strategaeth, Cymru Can.

Pedwar peth arall am y comisiynydd:

  • Treuliodd 12 mlynedd fel prif weithredwr Cwmpas, asiantaeth datblygu cydweithredol mwyaf y DU, yn gweithio i gefnogi pobl a chymunedau i greu swyddi a chryfhau cymunedau. Newidiodd Derek ffocws y sefydliad i ddatblygiad sy’n bodloni anghenion cenedlaethau’r presennol heb beryglu anghenion cenedlaethau’r dyfodol.
  • Dechreuodd ei yrfa fel swyddog polisi i Gynghorau Llundain, yn Llundain a Brwsel ac mae wedi gweithio fel Pennaeth Materion Allanol y Gronfa Loteri Fawr (Cymru), fel Pennaeth Polisi ac Ymgyrchoedd TUC Cymru ac ef oedd gweithiwr cyntaf Stonewall Cymru.
  • Magwyd Derek ar fferm ger Cwmbrân ac mae’n rhedwr a chwaraewr tenis brwd, wrth ei fodd yn darllen ac yn ddysgwr Cymraeg. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i bartner Mike ac mae ganddo ddau o blant sydd wedi tyfu i fyny.
  • Ei uchelgais tra yn Ysgol Gyfun Croesyceiliog oedd bod yn newyddiadurwr ac mae ganddo radd Meistr mewn Newyddiaduraeth Ryngwladol o Brifysgol Caerdydd. Mae’n hapus sut mae bywyd wedi troi allan ac yn dweud mai bod yn warcheidwad buddiannau pobl sydd heb eu geni eto yw’r fraint fwyaf.

Comisiynydd Cymru

"Bod yn warcheidwad buddiannau pobl sydd heb eu geni eto yw'r fraint fwyaf."

Derek Walker

Cylch Gorchwyl

Yr hyn y gall y comisiynydd ei wneud:

  • Rhoi cyngor i gyrff cyhoeddus gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chynghorau lleol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac Archwilydd Cyffredinol Cymru.
  • Cynnal adolygiadau o sut mae cyrff cyhoeddus yn ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau.
  • Darparu cyngor neu gymorth i fwrdd gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â pharatoi ei gynllun llesiant lleol.
  • Darparu cyngor neu gymorth i unrhyw berson arall y mae’r comisiynydd yn ystyried ei fod yn cymryd (neu’n dymuno) camau a allai gyfrannu at gyflawni’r nodau llesiant.
  • Annog arfer gorau ymhlith cyrff cyhoeddus wrth gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy
  • Hybu ymwybyddiaeth ymhlith cyrff cyhoeddus o’r angen i gymryd camau i gyflawni eu hamcanion llesiant yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy.
  • Annog cyrff cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd a chyda phobl eraill os gallai hyn eu cynorthwyo i gyflawni eu hamcanion llesiant.
  • Ceisio cyngor panel cynghori mewn perthynas ag arfer unrhyw un o swyddogaethau’r comisiynydd.
  • Cynnal ymchwil i’r graddau y mae’r nodau llesiant a’r dangosyddion cenedlaethol yngyson â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, yn ogystal ag i ba raddau y mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael ei hystyried mewn dangosyddion cenedlaethol a nodir gan Lywodraeth Cymru.

Yr hyn na all y comisiynydd ei wneud:

  • Nid yw cynnal adolygiad yn caniatáu i’r comisiynydd wyrdroi penderfyniadau penodol sydd eisoes wedi’u gwneud.
  • Ymyrryd mewn penderfyniadau cynllunio.

Derek Walker yn siarad yn Change Now - Gofalu am Genedlaethau'r Dyfodol

Adolygu

Adolygu sut mae cyrff cyhoeddus yn amddiffyn cenedlaethau’r dyfodol

Mae Adran 20 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi un o’u pwerau cryfaf i Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.

Gall y comisiynydd gynnal adolygiad i’r graddau y mae corff cyhoeddus yn diogelu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion wrth gyflawni datblygu cynaliadwy.

Mae dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ddilyn ein hargymhellion ac ymateb i’r adolygiad yn ysgrifenedig. Mae swyddfa’r comisiynydd yn dilyn cyfres o feini prawf wrth benderfynu ar y ffordd orau o gynnal adolygiad Adran 20.

Bu’r comisiynydd yn cydweithio â Phrifysgol Caerdydd ar Adolygiad Adran 20 o’r modd y mae Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn llywio penderfyniadau gwariant ar draws cyrff cyhoeddus ers 2016, pan ddaeth y Ddeddf i rym.

Gofynnodd yr Adroddiad ‘Caffael llesiant yng Nghymru’, i uwch arweinwyr adolygu eu dulliau caffael ac arwain at ganolfan ragoriaeth caffael newydd yng Nghymru

Rhwng Ionawr 2022 a 2023, adolygodd y comisiynydd sut mae Llywodraeth Cymru yn cymhwyso’rDdeddf ac yn cyflawni ei dyletswyddau o fewn y peirianwaith llywodraethu, yn Llywodraeth sy’n Addas ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol. Roedd Adolygiad Adran 20, a nododd arfer da a meysydd i’wgwella, yn cynnwys ymchwil helaeth, gan gynnwys casglu tystiolaeth, cyfweliadau â gweinidogion,gweision sifil, a chyrff cyhoeddus eraill, a dadansoddiad manwl o brosesau Llywodraeth Cymru.

Roedd y canfyddiadau allweddol yn pwysleisio’r angen am arweinyddiaeth gliriach, gwell cyfathrebu,ac adolygiad parhaus i gryfhau’r ffordd y caiff Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ei chymhwyso ar drawsy llywodraeth. Roedd yr adroddiad wedi’i strwythuro o amgylch tri phrif faes: Pobl a Diwylliant,Proses, ac Arweinyddiaeth y Sector Cyhoeddus. Canfu, er bod balchder yn y Ddeddf, fod bwlch o hydrhwng brwdfrydedd a chymhwysiad ymarferol.

Yn dilyn yr adolygiad, datblygodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus (CLIP) i fynd i’r afael ag argymhellion yr adroddiad.

Mae cyrff cyhoeddus bellach yn defnyddio Gwiriwr Ffyrdd o Weithio rhyngweithiol, a gynhyrchwyd gan dîm y comisiynydd, i gefnogi eu cynnydd.

Gwybodaeth Gyhoeddus

Chwilio am fwy o wybodaeth? Edrychwch dim pellach.

Dysgwch fwy