Search Icon

|

Amdano Chenedlaethau'r Dyfodol Cymru

Mae newid yn yr hinsawdd ac anghydraddoldeb yn fygythiad difrifol i ansawdd bywydein planta’n hwyrion.

Heb weithredu brys, gallai’r dyfodol ddod â mwy o lifogydddinistriol, tanau gwylltna ellir eu rheoli, ac ansicrwydd bwyd eang.

Mae Cymru wedi mabwysiadu dull blaengar, sef yr unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r ddeddfwriaeth arloesol hon yn amddiffynhawliau’r rhai sy’nbyw heddiw tra’n sicrhau bod lleisiau cenedlaethau’r dyfodol yn caeleu clywed.

Er enghraifft, pan fydd llywodraethau’n creu polisïau neu gynghorau’n dylunio tainewydd,rhaid gwneud y penderfyniadau hyn i wrthsefyll heriau’r 100 mlynedd nesaf.

Mae gweithredu heddiw ar gyfer gwell yfory yn golygu gweithio i greu byd lle gall pawbffynnutrwy gydol eu hoes wrth gadw planed fywiol i’r rhai sydd eto i ddod.

Yma yng Nghymru, mae’n ofynnol i’r sector cyhoeddus wneud penderfyniadauintegredig,hirdymor. Mae hyn wedi arwain at gamau mewn trafnidiaeth wyrddach,system addysgflaengar, a ffordd newydd o fesur ffyniant sy’n blaenoriaethu pobl a’rblaned.

Fel rhan o fudiad byd-eang sy’n ymdrechu i sicrhau dyfodol gwell, mae Cymru’n dangosyr hynsy’n bosibl.

Gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth—ond ni fydd cenedlaethau’r dyfodol ynmaddau innios methwn â gweithredu.

Ysgol Gynradd Radnor yng Nghaerdydd yn ennill Gwobr Ysgol Teithio Llesol Aur Sustrans Cymru

Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Cymru Can

Llunio gwell yfory: Darganfyddwch sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn trawsnewid Cymru

Ein strategaeth 2030 ar gyfer newid yng Nghymru.

Dysgwch fwy

Cwrdd â'r Comisiynydd

Creu etifeddiaeth ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Pwy yw Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a beth yw eu rôl?

Cwrdd â'r Comisiynydd

Cymru a'r Byd

Mudiad byd-eang ar gyfer newid

Mae Cymru yn paratoi’r ffordd ar gyfer llesiant byd-eang a dyfodol cynaliadwy llewyrchus i bawb.

Darllenwch ein canllaw rhyngwladol