Search Icon

| ENG

Cyflwyniad

Diddordeb mewn ymuno â’r Academi? Dyma rai o nodweddion allweddol y rhaglen i’ch helpu i ddechrau:

  • Yn rhedeg yn flynyddol o fis Medi i fis Mawrth.
  • 70 awr o hyfforddiant hybrid gyda thri digwyddiad rhwydweithio personol.
  • Lefel profiad: Dechrau neu yn gynnar yn eich gyrfa.
  • Wedi’i gyflwyno’n ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, gyda chymorth cyfieithu.
  • Ar ôl i’r cwrs ddod i ben, byddwch yn dod yn rhan o rwydwaith Alumni gweithgar, gyda chyfleoedd gwych i chi roi eich gwybodaeth ar waith a thyfu eich rhwydweithiau a’ch sgiliau.

Ymunwch

Sut i ymuno â’r Academi

Ar hyn o bryd mae dwy ffordd o ymuno â’r Academi: Recriwtio agored a noddwyr. Isod hefyd mae gwybodaeth am ffyrdd eraill rydym yn cynnig cymorth i ymgeiswyr sy’n ymuno â’r Academi.

 

Recriwtio Agored

Mae hwn yn llwybr rhad ac am ddim i gyfranogwyr, a gefnogir gan ein noddwyr i wneud cais ar gyfer unrhyw un sy’n barod i ddysgu ac arfogi eu hunain ar eu taith arweinyddiaeth –ar gael i bobl ifanc cyflogedig a di-waith. Mae cyfranogwyr sy’n gwneud cais trwy recriwtio agored yn sicrhau eu lle ar ôl proses ddethol. Mae ceisiadau am recriwtio agored yn agor ar-lein o fis Mai tan fis Mehefin.

Ar gyfer ymgeiswyr sy’n gyflogedig (llawn amser neu ran-amser), bydd angen i chi gadarnhau:

  • Mae gennych argaeledd i gymryd rhan yn y rhaglen.
  • Mae eich rheolwr llinell neu gyflogwr yn cymeradwyo eich cyfranogiad yn yr Academi.

Byddwn yn gofyn i’ch rheolwr llinell/cyflogwr eich helpu i nodi maes ffocws ar gyfer cynllun newid y byddwch yn ei ddatblygu yn ystod yr Academi.Bydd cais hefyd yn cael ei wneud i’ch rheolwr llinell/cyflogwr gwblhau arolwg byr iawn ar eich datblygiad arweinyddiaethar ddechrau a diwedd y rhaglen.

 

Noddwyr

Os ydych yn gyflogwr/sefydliad a hoffai fuddsoddi yn nyfodol person ifanc -gallwch dalu eu ffioedd dysgu drwy noddi eu lle yn yr Academi. Mae nawdd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc o gefndiroedd cymdeithasol-economaidd amrywiol gymryd rhan yn gyfartal yn y rhaglen, heb unrhyw gost iddynt.

Mae cyfranogwyr yr Academi yn cryfhau eu dealltwriaeth o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r sgiliau arwain sydd eu hangen arnynt i gymhwyso’r Ddeddf a rhagori yn eu gyrfaoedd, gan ganiatáu i’ch sefydliad fod yn rhan o’r mudiad dros newid yng Nghymru.

Cysylltwch ag Arweinydd Rhaglen FGLA, Korina Tsioni i fynegi diddordeb: korina.tsioni@futuregenerations.wales.

 

I’ch cefnogi chi

  • Mae gennym gronfa hygyrchedd hyblyg i gynorthwyo unrhyw un sydd â dyletswyddau gofal neu sy’n wynebu unrhyw rwystrau ariannol neu rwystrau erailli gymryd rhan yn y rhaglen, er enghraifft, os ydych yn ofalwr neu’n berson anabl. Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwn yn trafod unrhyw faterion hygyrchedd gyda chi.
  • Rydym yn gweithredu Cynllun Gwarantu Cyfweliad ar gyfer pobl o gefndiroedd Du, Asiaidd, Lleiafrifoedd Ethnig aphobl anabl sy’n ymateb i bob un o’r cwestiynau yn y ffurflen gais.
  • Mae dull hybrid yr Academi yn cynnwys tair sesiwn breswyl ledled Cymru ac rydym yn talu am yr holl gostau llety, cymudo ac arlwyo.
  • Mae cymorth bugeiliol 1-1 ar gael i bawb sy’n cymryd rhan yn yr Academi.

Y Cwrs

Llinell Amser Blynyddol

Mai tan Gorffennaf

Recriwtio cyfranogwyr

Medi

Lansio Preswyl dau ddiwrnod wyneb yn wyneb

Hydref tan Tachwedd

Sesiynau ar-lein dwyawr bob yn ail wythnos

Rhagfyr

Preswyl dau ddiwrnod wyneb yn wyneb y gaeaf

Ionawr i Mawrth

Sesiynau ar-lein dwy awr bob yn ail wythnos

Ionawr i Mawrth

Modiwl cynllun newid

Mawrth

Dathliad graddio

Diwedd mis Mawrth

Ymuno â rhwydwaith y Cyn-fyfyrwyr

"Mae bod yn y rhaglen Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol wedi fy ngalluogi i ehangu fy mhersbectif ar Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol a chael gwybodaeth fanwl. Mae cyfarfod â phobl o’r un anian sydd yr un mor angerddol am greu newid cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd wedi ei gwneud yn fwy angerddol i ymgorffori hyn wrth symud ymlaen."

Bablu Shikdar | Cyflwynydd, actor, awdur a chrëwr cynnwys

01

Cynefino

Digwyddiad sy’n diweddaru gwybodaeth arlein ac yn gosod yr olygfa gan eich cyflwyno i wahanol elfennau’r rhaglen, tîm yr Academi ac elfennau allweddol y rhaglen.

02

Cyflwyniad i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Comisiynydd

Drwy ddysgu am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, byddwch yn barod iawn iwneud y mwyaf o’ch amser gyda’r Academi.

03

Saith Nod Llesiant y Ddeddf

Sesiynau allweddol yn ymdrin â dibenion craidd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a hwyluso dysgu a chwestiynau ynghylch y saith nod llesiant.

05

Cynlluniau Newid

Rhan greiddiol o raglen yr Academi yw datblygu Cynlluniau Newid. Mae hyn yn digwydd yn ystod y rhaglen ac mae’n canolbwyntio ar gefnogi cyfranogwyr i adeiladu ar y dysgu a ddatblygwyd drwy’r Academi a’i roi ar waith er mwyn ysgogi newid yn eu sefydliadau neu gymuned eu hunain.

Rydym yn gweithio’n agos gyda’ch rheolwyr llinell, os ydynt yn ymrwymo i wneud hynny, er mwyn creu cynllun realistig a chyraeddadwy.

Bydd datblygiad y cynllun yn parhau wrth i chi symud i rwydwaith cyn-fyfyrwyr yr Academi.

Enghreifftiau o Gynlluniau Newid rydym wedi’u cael hyd yn hyn:

  • Rheoli Rhaglenni a Phrosiectau yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • Ymgorffori Cymraeg yn well
  • Anabledd. Trydydd Lleoedd a’r economi sylfaenol
  • Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol

06

Sesiynau Uwchbwer

Gweithdai i uwchsgilio a datblygu hyder cyfranogwyr mewn Arwain Eu Hunain ac Eraill.

Y prif themậu fydd:

  • Arwain gydag Eraill (Deall Eich Hunan ac Eraill)
  • Arwain eich Hunan (yn cynnwys Brandio Personol/Gweithle Hybrid/gweithio hyblyg)
  • Arwain gydag Empathi (Deallusrwydd Emosiynol, Cydnerthedd a Methu’n Dda)
  • Arwain y Dyfodol (yn cynnwys tueddiadau’r dyfodol, ansicrwydd, data a Deallusrwydd Artifisial)
  • Arwain newid (dylanwadu ar Eraill, Cyflwyno, Dwyn Perswậd a Negodi)

07

Graddio

Digwyddiad hwylus, rhyngweithiol a dathliadol i ddod ậ phawb at ei gilydd. Cyfle i rwydweithio, byddwch yn cwrdd â mentoreion y dyfodol ac yn gweld arddangosfa o Gynlluniau Newid.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni am yr Academi.

contactus@futuregenerations.wales