Gwneud
Eich Cefnogi chi
Rydym yn darparu cyngor, cymorth, cefnogaeth a chyfleoedd dysgu a datblygu i bobl ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn amrywiaeth o ffyrdd.
Rydym yn cyhoeddi argymhellion ac adroddiadau; sylwadau ar bolisi a materion cyfoes; cynhyrchu pecynnau cymorth ac adnoddau; darparu cyngor yn uniongyrchol i sefydliadau; ac ymateb i aelodau o’r cyhoedd sy’n cysylltu â ni.
Lle y gallwn, byddwn yn cwrdd â chi i roi cyngor, darparu cyflwyniadau, hyfforddiant, cyfeirio, adnoddau, pecynnau cymorth, astudiaethau achos, canllawiau a chymorth cyffredinol.
Mae ein tîm yn cael llawer o geisiadau am gymorth ac mae angen inni flaenoriaethu’r sefydliadau hynny sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf; ond anfonwch e-bost at contactus@futuregenerations.wales gyda’ch ymholiad ac fe gawn ni weld sut gallwn ni helpu.
01
Dyddiadau sesiynau i ddod, ar-lein:
3 Rhagfyr 2025, 10.00yb – 12.30yp
10 Chwefror 2026, 1.30yp – 4.00yp
Nod y sesiwn hon fydd eich cyflwyno i’r Ddeddf neu roi adnewyddiad i chi.
Trwy’r sesiwn hon byddwch yn:
Ar ddiwedd y sesiwn byddwch yn gallu:
Gallai’r sesiwn hon fod o ddiddordeb arbennig i bobl a hoffai gael cyflwyniad neu adfywiad i’r Ddeddf – efallai aelodau newydd o staff, y rhai sy’n dychwelyd i’r gwaith, y rhai sy’n gweithio mewn adrannau o gyrff cyhoeddus sy’n llai agored i hyfforddiant corfforaethol ar y Ddeddf, Swyddogion Etholedig newydd ac ati.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru, gan gyfeirio eich e-bost at Heledd Morgan.
Cofrestrwch yma02
Ydych chi eisiau gwybod mwy am feddwl hirdymor, rhoi cynnig ar wahanol dechnegau rhagweld a’u cymhwyso yn eich gwaith? Yna cofrestrwch ar gyfer un o’n digwyddiadau hyfforddi ar feddwl hirdymor nawr!
Wrecsam: 9 Rhagfyr 2025, 10am – 1pm
Cofrestrwch yma03
Mae Llywodraeth Cymru ac Academi Wales hefyd yn cynnal sesiynau ychwanegol awr o hyd ar y Ddeddf sy’n rhannu rhai o’r wyddor ymddygiad diweddaraf y gallwch ei gymhwyso, mewn ffyrdd ymarferol ac effeithiol, i ddyfnhau eich dealltwriaeth a’ch defnydd o’r Ddeddf.
Ymunwch hefyd â Dydd Gwener Awyr Iach, lle dwyieithog rhithwir i ymlacio ac anadlu eto.
Cofrestrwch yma os gwelwch yn dda04
Dysgwch sut y gallwch chi chwarae rhan weithredol yn y broses o greu ein Cymru ddelfrydol. Yn y canllaw hwn byddwch yn dod o hyd i gamau ymarferol i’ch helpu i ddechrau arni, a bydd yn dangos sut mae’r Ddeddf eisoes yn cael ei defnyddio i wella ardaloedd lleol yng Nghymru. Hefyd ar gael mewn BSL.
Linc05
E-fodiwl a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer pawb sy’n dod o dan ymbarél y Ddeddf – staff, contractwyr, derbynwyr grantiau ac eraill sy’n gweithio gyda sefydliadau’r sector cyhoeddus.
Dysgu mwy
Mae symud i genedlaethau’r dyfodol yn gofyn am newid diwylliant. I wneud hynny, mae yna 7 nod i weithredu fel canllaw, pum dull i helpu pobl i gyrraedd yno, 50 ffordd o wirio ein bod ar y trywydd iawn.