Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu offeryn ymarferol i helpu pobl sy’n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus i ddefnyddio dulliau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o weithio wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau.
Rydyn ni eisiau i’r Fframwaith fod mor ddefnyddiol â phosib, ac yn croesawu eich adborth yn arbennig ar y canlynol:
- Pa mor ddefnyddiol yw’r Fframwaith? A wnaeth eich helpu chi i ddeall a defnyddio’r Ddeddf? A yw’r cynnwys yn iawn? A yw wedi cynnwys popeth neu a oes rhywbeth ar goll?
- A yw’n rhy hir neu’n rhy dechnegol? A fedrem ni ei wneud yn fyrrach?
- Os felly, be fedrem ni/ddylen ni ei ddiddymu?
- A yw’r iaith yn hawdd ei dilyn neu’n rhy gymhleth mewn mannau? A oes angen symleiddio’r iaith?
- A wnaeth eich helpu i feddwl am eich prosiect/menter yn wahanol?
- A ydych chi’n defnyddio unrhyw ddulliau eraill o weithio i gynorthwyo eich gwaith ar y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol? Os felly a yw ein fframwaith yn cydfynd â hyn?
- Sut fedrai’r fframwaith ffitio mewn a chyd-fynd â’ch “methodoleg rheoli prosiectau” presennol? (rydyn ni’n awyddus i osgoi dyblygu a biwrocratiaeth)?
Os yr ydych wedi darllen neu ddefnyddio’r Fframwaith, os gwelwch yn dda anfonwch eich adborth atom drwy gyfrwng contactus@futuregenerations.wales