Crëwyd Fframwaith Cenedlaethau’r Dyfodol ar Graffu i gynorthwyo’r broses o wneud penderfyniadau yng nghyd-destun y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i feddwl mewn dull newydd am y modd y mae’n gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu cyflawni yng Nghymru. Rhaid i gyrff cyhoeddus weithio mewn ffordd sy’n gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Cyfres o awgrymiadau yw’r fframwaith a fedrai helpu unrhyw un sy’n awyddus i ofyn cwestiynau am y modd y cafodd penderfyniad ei wneud – aelod o’r cyhoedd, y cyfryngau, rheolwr, swyddogion etholedig ac aelodau bwrdd.
Diolch yn fawr i bawb sydd eisoes wedi’n helpu i ffurfio a rhoi prawf ar y fframwaith hwn.
Rydyn ni’n awyddus i’r Fframwaith fod mor ddefnyddiol â phosib, a buasem yn croesawu eich adborth, yn arbennig ar y canlynol:
Os yr ydych wedi darllen neu ddefnyddio’r Fframwaith, os gwelwch yn dda anfonwch eich adborth atom drwy gyfrwng contactus@futuregenerations.wales