Search Icon

| ENG

Y newid yn yr hinsawdd yw’r bygythiad mwyaf sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol.

Ar 29 Ebrill gwnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan ei bod yn argyfwng ar yr Hinsawdd, yn fyr wedi cyhoeddi ei cynllun “Cymru Carbon Isel” sydd yn cynnwys 100 o bolisïau a chynigion ond dim manylion ar sut y bydd y rhain yn cael eu hariannu. Yn gynharach y mis hwn cyhoeddodd y Gweinidog uchelgais y Llywodraeth i gyflwyno targed i Gymru gael gwared yn gyfangwbl ag allyriadau carbon erbyn 2050, a tra fod hwn i’w groesawi rhaid sicrhau fod cyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r uchelgais hwn.

 

Bydd ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn gofyn am lefel llawer uwch o sylw manwl a buddsoddiad; mae wyth o wledydd Ewrop yn ddiweddar wedi galw ar i 25% o gyllideb yr UE gynorthwyo gweithredu ar y newid yn yr Hinsawdd – a ddylai hyn fod yr un fath i Gymru?

 

Yn y Cynllun 10 pwynt i ariannu argyfwng Hinsawdd Cymru, rwyf wedi nodi deg maes ar gyfer buddsoddi lle mae angen rhoi blaenoriaeth i weithredu a’i gynyddu i gwrdd â her yr ‘argyfwng hinsawdd’. Mae’r £991 miliwn o fuddsoddiad sydd angen clustnodi yn cyllid nesaf Llywodraeth Cymru (2020-21) i ariannu trafnidiaeth cynaliadwy, buddsoddi mewn tai ac adeiladau carbon isel, ynni adnewyddadwy a datrysiadau seiliedig ar natur, yn unol ac amcangyfrif Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd (UK CCC) o £30 biliwn rhwng nawr a 2050.

 

Mae nifer o arbenigwyr wedi cyfrannu i’r Papur Gwyn sydd yn cyflwyno man cychwyn ar gyfer trafodaethau – gyda arbenigwyr, cyrff cyhoeddus, unigolion ac yn bwysicaf oll y Llywodraeth, i nodi pa fath o fuddsoddiad sy’n ofynnol er mwyn cyflawni ein targedau statudol.

 

Rydym ni’n croesawu eich adborth a’ch sylwadau ar ein cynllun – danfonwch nhw atom cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru