Search Icon

| ENG

Mae strategaeth gyllidebol Llywodraeth Cymru a’r broses gwneud penderfyniadau yn rhan hanfodol o ysgogi newid ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gan ei fod yn fframio cyfran arwyddocaol o benderfyniadau gan gyrff cyhoeddus.

Mae’r Comisiynydd wedi cynghori a chytuno’n llwyddiannus gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, Mark Drakeford AC ar ddiffiniad o atal.

Tra bydd hwn yn cymryd cryn dipyn o amser i gael ei ddeall ar draws y Llywodraeth, mae’r Comisiynydd yn disgwyl gweld sut mae’n trwytho penderfyniadau gwariant ac rydyn ni’n falch i weld peth dadansoddiad yn y gyllideb eleni.

Y diffiniad o atal y cytunwyd arno rhyngom ni a Llywodraeth Cymru:

Atal yw gweithio mewn partneriaeth a chynhyrchu ar y cyd y canlyniadau gorau posibl, gan ddefnyddio cryfderau ac asedau sydd gan bobl a lleoedd i’w cyfrannu.

Gan dorri i bedwar lefel, gall pob lefel leihau’r galw am y nesaf:

  • Atal sylfaenol – Adeiladu cydnerthedd – creu’r amodau lle na fydd problemau’n codi yn y dyfodol. Ymagwedd gyffredinol.
  • Atal eilaidd – Targedu camau tuag at feysydd lle mae risg fawr y bydd problemau’n digwydd. Ymagwedd wedi ei thargedu sy’n sefydlu egwyddorion cyffredinoliaeth flaengar.*
  • Atal trydyddol – Ymyrryd pan fydd problem wedi digwydd, i’w hatal rhag  gwaethygu a’i hatal rhag digwydd eto yn y dyfodol. Ymagwedd ymyrryd.
  • Gwariant aciwt – Gwariant, sy’n gweithredu i reoli effaith sefyllfa negyddol iawn sy’n gwneud ychydig neu ddim i atal problemau rhag digwydd yn y dyfodol. Ymagwedd adferol.

* Mae ‘cyffredinoliaeth flaengar’ yn golygu penderfyniad i ddarparu cymorth i bawb, gan roi i bawb a phopeth lais a diddordeb personol, ond sy’n cydnabod y bydd mwy o gymorth yn ofynnol mewn ardaloedd lle mae mwy o angen.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2019-20

Mae’r gyllideb ddrafft 2019-2020 wedi ei strwythuro mewn dull mwy integredig, sy’n adlewyrchu mewn dull defnyddiol strwythur yr adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd yn ddiweddar ‘Ffyniant i Bawb’ ac sy’n adlewyrchu’r gofyniad o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i ddatblygu a chyflwyno polisi mewn dull integredig.

Mae’r Comisiynydd wedi craffu ar y gyllideb ddrafft, gan ystyried sut mae’r gyllideb yn ei chyfanrwydd yn adlewyrchu’r Ddeddf, a hefyd wedi archwilio’n fwy manwl benderfyniadau’r gyllideb sy’n berthnasol i Iechyd Meddwl, Datgarboneiddio a Gofal Cymdeithasol. Darparodd Cyllid Cymdeithasol, sefydliad ddim-am-elw sy’n gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu datrysiadau newydd i broblemau mwyaf anodd cymdeithas ddadansoddiad a mewnwelediad mewn perthynas â’r gwaith hwn.

Gellir cael trawsgrifiad o dystiolaeth y Comisiynydd i’r Pwyllgor Cyllid ar 15fed Tachwedd 2018 

Mae’r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi cyngor i Lywodraeth Cymru gyda 10 argymhelliad ar gyfer adeiladu ar y cynnydd a wnaethpwyd ganddynt yn y gyllideb ddrafft y tro hwn i gymryd camau mwy uchelgeisiol a thrawsffurfiol o 2019 ymlaen. Mae’r argymhellion hyn y ymwneud a:

  1. Datblygu ymagwedd tuag at wirio cynnydd o flwyddyn i flwyddyn a fydd yn ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn y broses gyllidebol;
  2. Defnyddio Adolygiad Gwariant Llywodraeth y DG fel cyfle i gymryd camau pellach tuag at ymagwedd hirdymor;
  3. Defnyddio’r diffiniad o atal ar draws Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus.
  4. Deall cytbwysedd y buddsoddiad a ddymunir mewn ymagweddau ataliol ar draws Llywodraeth, a sefydlu ymagweddau ataliol yn unol â hynny;
  5. Sicrhau bod y buddsoddiad mewn datgarboneiddio’n adlewyrchu uchelgais.