O dan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae gan y sector cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd i ddiogelu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol wrth wneud penderfyniadau heddiw. Mae’r Ddeddf yn amlinellu saith nod llesiant cenedlaethol ar gyfer Cymru.
Mae busnesau Cymru eisoes yn cyfrannu at gyflawni nodau llesiant Cymru ac yn dweud wrthym yn gynyddol eu bod am ddeall beth arall y gallant ei wneud. Yn ogystal, mae’r sector cyhoeddus a’r sector gwirfoddol yn gofyn i fusnesau ddangos y camau gweithredu a’r buddsoddiadau y maent yn eu gwneud yn y nodau llesiant.
Pecyn Cymorth Busnes a’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Gan weithio gyda busnesau Cymreig, rydym wedi datblygu pecyn cymorth cynllunio busnes ymarferol a hawdd ei ddefnyddio am ddim.
P’un a ydych yn fasnachwr unigol, yn BBaCh neu’n rhan o sefydliad byd-eang sydd eisoes yn adrodd yn erbyn eich nodau cynaliadwyedd, mae’n eich helpu i: